Erthygl Gwadd – Groundwork Gogledd Cymru
O weithdai macramé i fosaig, mae’r sesiynau ymarferol hyn yn gyfle i’r gymuned leol gymryd rhan mewn gweithgaredd creadigol, gan fwynhau golygfeydd gwych o’r parc gwledig ar yr un pryd.
Mae croeso i grefftwyr profiadol a dechreuwyr ymuno mewn amrywiaeth o weithgareddau difyr, a chael cyfle i ddysgu sgiliau newydd o dan oruchwyliaeth arbenigwyr.
“Mae’r gweithdai yn gyfle gwych i bobl ddysgu sgiliau newydd, cymdeithasu gyda phobl eraill sy’n mwynhau crefftau, a hynny yn amgylchedd braf Parc Gwledig Dyfroedd Alun” dywedodd Katy Turner, Rheolwr y Caffi a Chynadleddau.
Mae’r gweithdai yn llwyfan perffaith i arbrofi â thechnegau newydd, dod i gysylltiad â chrefftwyr eraill, ac ymgolli yn y broses greadigol. Ni waeth a ydych chi’n angerddol dros fosaig, macramé, neu grefftau papur, cewch ddigon o ysbrydoliaeth yn ein gweithdai.
11 Mai – Gweithdy Plygu Papur
15 Mehefin – Gweithdy Mosaig Glöyn Byw
22 Mehefin – Gweithdy Macramé
7Medi – Gweithdy Celf Gwifrau
26 Hydref – Gweithdy Addurno Cacennau bach
Ni waeth a fyddwch yn dod ar eich pen eich hun, gyda ffrindiau, neu aelodau’r teulu, mae rhywbeth at ddant pawb.
Bydd pob gweithdy o dan arweiniad hyfforddwyr profiadol, felly bydd pawb yn derbyn arweiniad a chymorth personol bob cam o’r ffordd.
Darperir yr holl offer a defnyddiau, ac mae’r pris yn cynnwys dewis o ddiod boeth a chacen flasus o Caffi Cyfle. Bydd yr holl elw yn cyfrannu at nodau elusennol Groundwork Gogledd Cymru yn y gymuned.
I gael rhagor o wybodaeth, neu er mwyn archebu lle ar un o’r gweithdai, e-bostiwch info@groundworknorthwales.org.uk