Dechreuodd Pythefnos Ymwybyddiaeth o Sgamiau Cyngor ar Bopeth ddydd Llun, 15 Mehefin, a’r bwriad yw rhoi sgiliau a hyder i bobl allu adnabod sgamiau, rhannu eu profiadau a gweithredu trwy roi gwybod am unrhyw weithgareddau amheus.
Felly, dyma rywfaint o wybodaeth i’ch helpu i fod yn #YmwybodolOSgamiau
Adnabod sgamiau
Mae’r wythnos gyntaf wedi’i neilltuo i’ch helpu i nodi beth yw sgiâm, oherwydd gallan nhw gymryd sawl ffurf ac maen nhw’n fwyfwy cymhleth a soffistigedig.
Mae Cyngor ar Bopeth am roi’r wybodaeth fydd ei hangen arnoch i adnabod gwahanol sgamiau a dangos i chi sut i stopio a gofyn am gyngor am beth i’w wneud nesaf, os ydych yn credu eich bod yn cael eich targedu.
Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar eu gwefan.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Pa mor ymwybodol o sgamiau ydych chi?
Mae cwis byr wedi’i lunio er mwyn i chi brofi eich gallu i adnabod sgiâm...rhowch gynnig arni a gweld sut hwyl gewch chi.
Peidiwch â chael eich brysio i wneud penderfyniadau cyflym gyda’ch arian na’ch manylion personol – gallai fod yn sgiâm. Dilynwch y ddolen hon os oes angen cyngor arnoch a byddwch yn #YmwybodolOSgamiau
👉 https://t.co/yjXtVl6ufs pic.twitter.com/mifPkAULGS
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) June 18, 2020
Rhoi gwybod am sgamiau
Bydd yr ail wythnos (o ddydd Llun) yn edrych ar sut gallwch roi gwybod am sgiâm, oherwydd os ydych yn credu eich bod wedi bod yn destun sgiâm, mae camau gallwch eu cymryd i ddiogelu eich hunain rhag i bethau fynd yn waeth.
Os byddwch chi’n gweithredu’n syth, mae’n bosibl y byddwch yn gallu adennill rhywfaint o’r arian rydych wedi’i golli.
Beth gallaf ei wneud os byddaf yn credu fy mod wedi bod yn destun sgiâm?
Stopiwch a cheisio cyngor gan Linell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth drwy ffonio 0808 223 1133 (neu 0808 223 1144 i gael gwasanaeth Cymraeg).
Gallwch roi gwybod i Action Fraud am sgamiau drwy ffonio 0300 123 2040 neu gysylltu â @actionfrauduk ar Twitter.
Cofiwch, byddwch yn #YmwybydolOSgamiau bob amser.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19