Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae’r dechnoleg hon yn ein helpu pan rydym yn gwagu ein biniau ac yn ailgylchu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Fideo > Mae’r dechnoleg hon yn ein helpu pan rydym yn gwagu ein biniau ac yn ailgylchu
FideoY cyngor

Mae’r dechnoleg hon yn ein helpu pan rydym yn gwagu ein biniau ac yn ailgylchu

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 4, 2020 12:33 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
RHANNU

Oeddech chi’n gwybod fod gan bob lori biniau a cherbydau ailgylchu dechnoleg yn y cab a theledu cylch cyfyng 360 gradd?

Cynnwys
  • Sut mae technoleg yn y cab yn gweithio
  • Canolfan gyswllt
  • Bin ddim allan
  • Materion halogi
  • Materion mynediad
  • Materion eraill

Mae cael hwn ar gael ar bob cerbyd yn golygu fod ein criwiau yn gallu cofnodi nifer o bethau pan fyddant yn gwneud eu casgliadau.

Sut mae technoleg yn y cab yn gweithio

Pan fydd ein criwiau yn mynd ar eu rowndiau, maent yn gallu cofnodi nifer o bethau, o broblemau gyda’ch ailgylchu, i’r sefyllfaoedd fydd yn eu hatal rhag gallu perfformio eu gwaith, fel materion mynediad gyda cheir yn eu rhwystro.

Eglurodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae cael technoleg yn y cab yn ein cerbydau yn gadael i’n timau gofnodi llawer o faterion a wynebir ganddynt yn ystod eu diwrnod gwaith. Os na fyddent yn gallu cael mynediad i ffordd benodol, byddai hynny’n cael ei gofnodi drwy’r dechnoleg yn y cab.

“Mae’r sgrîn gartref yn y cab yn dangos yr wyth eiddo agosaf i’w lori bin/cerbyd ailgylchu ac o hynny gall ein staff glicio ar bob eiddo i gofnodi nifer o fanylion os bydd angen, gan gynnwys unrhyw faterion llygru.”

EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…

Canolfan gyswllt

Mae’r wybodaeth a gofnodir yn y cab yn cael ei hanfon i’n canolfan gyswllt. Mae hyn yn ein helpu pan fydd staff y ganolfan gyswllt yn derbyn galwad gan aelod o’r cyhoedd i roi gwybod am broblem fel methu gwagu bin, gallant weld a oedd bin yr unigolyn hwnnw allan pan aethom i‘w stryd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Bithell: “Rydym yn defnyddio’r wybodaeth a gofnodwyd pan fydd aelodau o’r cyhoedd yn cysylltu â ni i ofyn cwestiynau fel pan mae eu biniau yn cael eu gwagu. Rydym yn gwybod y gall fod yn rhwystredig methu casgliad, ond mae rhai pethau y tu hwnt i’n rheolaeth… felly mae’n beth da bod gennym y wybodaeth hon ar gael.”

Mae ein systemau ar-lein hefyd yn defnyddio’r wybodaeth hon pan fyddwch yn rhoi gwybod am fin heb ei wagu ar ein gwefan.

Felly beth allwn ni ei gofnodi? Dyma rai o’r pethau y defnyddir ‘in-cab’ gennym…

Bin ddim allan

Y peth cyntaf y gellir ei gofnodi yw pa un a oedd eich bin/ailgylchu allan pan wnaeth ein criwiau ymweld â’ch stryd.

Cofiwch, mae ein timau yn dechrau gweithio yn gynnar iawn yn y bore felly mae eich biniau/ailgylchu angen bod allan erbyn 7.30am bob bore. Os byddwch yn eu rhoi allan yn hwyrach, efallai y bydd ein criw eisoes wedi ymweld â’ch stryd.

Materion halogi

Mae ‘in-cab’ yn ein galluogi i gofnodi unrhyw faterion halogi gyda eich biniau/ailgylchu. Mae’r rhain yn cynnwys:

• Gwastraff cartref y gellir eu hailgylchu
• Cardfwrdd ddim yn cael ei ailgylchu yn gywir
• Pecynnau polystyren (ddim yn ailgylchu) mewn sbwriel ailgylchu
• Eitemau trydanol yn eich biniau
• Metel sgrap yn eich biniau
• Pridd yn eich gwastraff gardd
• Leiners bwyd anghywir yn eich cadi
• Gwastraff cŵn yn eich bin gwyrdd
• Cewynnau yn eich bin ailgylchu

Ffeithiau am ailgylchu: Mae golchi eich potiau, tybiau, três a photeli plastig cyn iddynt gael eu casglu yn golygu fod deunydd ailgylchu o ansawdd llawer uwch yn cael ei anfon i'w ailgylchu i greu cynhyrchion newydd. pic.twitter.com/oAFmysINcp

— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) March 3, 2019

Materion mynediad

Rydym yn defnyddio ‘in-cab’ i gofnodi pan fydd yna faterion mynediad fel ceir yn rhwystro’r ffordd, sy’n ein hatal rhag cyrraedd eich stryd.

Mae’r dechnoleg hon yn ein helpu pan rydym yn gwagu ein biniau ac yn ailgylchu

Gallwch ein helpu i osgoi hyn drwy gymryd gofal ychwanegol wrth barcio eich cerbydau ar eich diwrnod casglu. Rydym yn deall nad oes gan bawb dramwyfa neu garej, ac mae’r bobl hyn yn gorfod dibynnu ar barcio ar y stryd.

Ond os ydych chi’n gwybod y bydd eich biniau’n cael eu casglu, edrychwch ar y stryd a gwiriwch bod digon o le i’n cerbydau mawr allu ymgymryd â’u dyletswyddau’n ddiogel.

Cofiwch, mae ein lorïau yn drwm ac yn llydan, felly mae’n rhaid i’n gyrwyr fod yn sicr y gallant deithio ar hyd strydoedd a throi’r cerbyd heb achosi unrhyw ddifrod. Os nad yw hyn yn bosibl, mae’n rhaid iddynt fynd yn ôl sy’n gadael rhai tai yn siomedig.

Materion eraill

Gallwn hefyd gofnodi pethau eraill fel pa un a wnaethoch adael unrhyw fagiau rhydd wrth ymyl eich biniau, a oedd eich biniau yn rhy drwm i’w casglu, cynnwys wedi’i wasgu i’ch bin, difrod i unrhyw un o’ch biniau neu a oeddech yn ceisio defnyddio ail fin heb awdurdod.

Gellir rhoi gwybod am gasgliadau a fethwyd drwy ffonio 01978 298989 neu ar-lein yma. Rhowch wybod i ni cyn 3pm a byddant yn cael eu casglu o fewn tri diwrnod gwaith os mai CBSW sydd ar fai. Bydd biniau na chawsant eu casglu lle nad oes bai ar y cyngor yn cael eu casglu ar eich diwrnod casglu nesaf sydd wedi ei nodi ar eich calendr.

Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_24″] COFRESTRU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol O Fenis i Wrecsam - Popeth sydd angen i chi ei wybod am arddangosfa newydd Tŷ Pawb O Fenis i Wrecsam – Popeth sydd angen i chi ei wybod am arddangosfa newydd Tŷ Pawb
Erthygl nesaf Heritage event Pobl ifanc yn dysgu am sgiliau adeiladu treftadaeth

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English