Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE bellach wedi mynd heibio, ond mae hi dal yn bosibl i gyflwyno cais hwyr.
Ceisiadau hwyr
Roedd angen i ddinasyddion yr UE, Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) a’r Swistir ac aelodau o’u teuluoedd oedd yn byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020, ymgeisio cyn y dyddiad cau ar 30 Mehefin, ond mae hi’n bosibl i chi wneud cais os nad oedd y dyddiad cau hwnnw’n berthnasol i chi, neu os oes gennych chi ‘sail resymegol’ i beidio â chyflwyno cais erbyn y dyddiad cau.
Gallwch fynd i wefan gov.uk/eusettlementscheme i weld os ydych chi’n gymwys, ac os ydych chi, mae cefnogaeth dal ar gael i’ch helpu gyda’ch cais.
Hyd yn oed os ydych chi wedi byw yn y DU ers sawl blwyddyn, fe ddylech chi wirio a oes angen i chi ymgeisio. Bydd rhieni hefyd angen gwirio a ydi eu plant angen ymgeisio a dylent wneud cais ar eu rhan yn ddi-oed.
Ceisiadau cyn 30 Mehefin
Bydd hawliau presennol unrhyw un a gyflwynodd gais erbyn y dyddiad cau ar 30 Mehefin yn cael eu gwarchod, yn amodol ar ganlyniadau eu cais. Bydd ymgeiswyr yn cael Tystysgrif Cais, a gellir dibynnu arno fel prawf o’u hawliau.
Bydd y Dystysgrif Cais ar gael yn eu ‘view and prove account’ neu fe fydd yn cael ei anfon atynt yn y post.
Bydd y Swyddfa Gartref yn cysylltu ag unrhyw ymgeisydd pan fyddwn ni angen rhagor o wybodaeth er mwyn symud ymlaen â’ ch/gais.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan www.gov.uk/eusettlementscheme
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN