Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb –14 – 21 Hydref
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb –14 – 21 Hydref
ArallPobl a lle

Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb –14 – 21 Hydref

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 16, 2017 11:23 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb –14 – 21 Hydref
Photo by James Sutton on Unsplash
RHANNU

Mae’n Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb yr wythnos hon, amser i dynnu sylw at droseddau casineb, annog dioddefwyr i hysbysu am droseddau ac i rwystro cyflawnwyr.

Mae partneriaid ledled y rhanbarth yn cynnwys awdurdodau lleol, Heddlu Gogledd Cymru a Cymorth i Ddioddefwyr yn gweithio gyda’i gilydd i amlygu materion troseddau casineb a hyrwyddo pwysigrwydd hysbysu’r Heddlu a Cymorth i Ddioddefwyr a’r dulliau o wneud hynny. Mae trosedd casineb yn golygu unrhyw drosedd a dargedir at unigolyn oherwydd gelyniaeth neu ragfarn tuag at yr unigolyn hwnnw.

Gall y troseddau hyn gael eu hysgogi gan anabledd rhywun, ei hil neu ei ethnigrwydd, ei grefydd neu ei gred, ei gyfeiriadedd rhywiol neu ei statws trawsryweddol. Gall y trosedd amlygu ei hun mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys cam-drin geiriol, graffiti difrïol, bygythiadau, difrod i eiddo, ymosodiadau, seiberfwlio, negeseuon testun, negeseuon e-bost neu alwadau ffôn sarhaus.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Meddai un o Gynghorwyr Wrecsam, y Cyngh. Hugh Jones YH, Dirprwy Arweinydd a Chadeirydd Bwrdd Cymunedau Diogelach Gogledd Cymru, ‘Mae Troseddau Casineb yn anghywir. Maent yn difetha bywydau ac yn ynysu unigolion a chymunedau diamddiffyn. Gwyddom fod y troseddau hyn yn digwydd ond mae’n dal i fod yn wir bod nifer sylweddol o achosion yn digwydd heb i bobl hysbysu amdanynt. Rydym am i bobl hysbysu am yr holl Ddigwyddiadau Casineb fel bod cyflawnwyr yn cael eu dwyn o flaen eu gwell, bod dioddefwyr yn cael cymorth ac er mwyn i ni allu defnyddio’r wybodaeth i adnabod mannau lle mae hyn yn broblem ac atal y broblem rhag gwaethygu. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru yn parhau i godi proffil y mater pwysig iawn yma ac rwy’n hyderus, trwy weithio mewn partneriaeth, y gallwn wneud gwahaniaeth go iawn’.

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod wedi dioddef trosedd casineb yna mae nifer o ffyrdd y gallwch hysbysu yn ei gylch:

• Ffonio’r Heddlu yn uniongyrchol gan ddeialu 999 os ydych mewn perygl uniongyrchol, neu 101 ar gyfer achosion di-frys neu gwblhau ffurflen hysbysu ar-lein Heddlu Gogledd Cymru sydd i’w chael yma https://www.north-wales.police.uk/advice-and-support/stay-safe/hate-crime

• Ffonio: 0300 30 31 982 [Am ddim, 24/7] i gysylltu’n uniongyrchol â Cymorth i Ddioddefwyr. Mae galwadau’n cael eu trin yn gyfrinachol ac mae gennych opsiwn i aros yn ddienw.

• Yn ogystal, gallwch hysbysu ar-lein yn yma

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Pwy ydi enillydd Cystadleuaeth Calendr mis Medi Pwy ydi enillydd Cystadleuaeth Calendr mis Medi
Erthygl nesaf Mae’r gaeaf ar ei ffordd – sut ydym ni’n paratoi? Mae’r gaeaf ar ei ffordd – sut ydym ni’n paratoi?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English