Yn sgil nifer y bobl yn teithio mewn car i’n parciau gwledig yn groes i’r cyfyngiadau presennol, rydym wedi penderfynu cau ein meysydd parcio.
Yn ôl y cyfyngiadau presennol, mae’n rhaid i bawb ymarfer corff yn lleol, ac ni ddylent deithio mewn car i wneud hynny. Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i chi gychwyn a gorffen ymarfer corff gartref.
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Yn dilyn penwythnos lle gwelwyd niferoedd uchel yn defnyddio ein meysydd parcio yn y parciau gwledig, rydym wedi penderfynu eu cau. Nid yw’n benderfyniad hawdd, ond yn sgil y niferoedd uchel cynyddol yn Wrecsam ac ar draws Gogledd-Ddwyrain Cymru, mae cau’r meysydd parcio yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn y cyhoedd ac osgoi defnyddio adnoddau gwerthfawr yr Heddlu.
“Byddant yn cael eu hail-agor pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny. Dilynwch yr holl gyfyngiadau sydd yn weithredol, yn cynnwys peidio â theithio i ymarfer corff.”
Gwnaed y penderfyniad mewn ymgynghoriad gyda Heddlu Gogledd Cymru.
CANFOD Y FFEITHIAU