Mae ein staff yn weithwyr caled sy’n chwarae rôl hanfodol yn y gwaith o wneud gwelliannau i’n heiddo.
Trwy eu hymrwymiad nhw, eu gwaith cynllunio arbenigol a’u sylw i fanylion mae’r gwelliannau hyn yn rhedeg yn esmwyth, ac rydym bellach yn chwilio am ddau berson arall i ymuno â’r Tîm Tai ac Economi.
Fyddech chi’n gallu gwneud hyn?
Rydym yn chwilio am ddau Dechnegydd Gwaith Allanol i gynnal arolygon manwl a chynorthwyo i ddylunio ystod eang o waith amgylcheddol ar gyfer ein heiddo.
Bydd y bobl lwyddiannus yn mwynhau dod o hyd i atebion i broblemau trwy weithio fel rhan o’n tîm. Mae diwydrwydd a sgiliau cyfathrebu ardderchog yn rhinweddau hanfodol ar gyfer y rôl hon.
I roi gwell dealltwriaeth i chi o’r swydd, rhai o’r tasgau a roddir i’n technegwyr yw:
• Cynnal arolygon dichonoldeb ar gyfer cynlluniau adeiladu bach, megis ‘parcio ar y llain’.
• Cynorthwyo â’n dyluniadau, gan gynnwys cynlluniau parcio ceir, cynlluniau draenio a gwaith arall.
• Paratoi lluniadau a manylebau ar gyfer y cynlluniau hyn.
• Monitro cynnydd contractwyr ar ein safleoedd.
Rydym yn gweithio yn unol â rheoliadau cenedlaethol a rheoliadau Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae hwn yn gyfle gwych i’r bobl gywir ac fe gewch gefnogaeth ragorol.
Gall gweithio i’r cyngor fod yn ddewis gyrfaol da hefyd – mae fel arfer yn cynnwys pensiwn, lwfans gwyliau da, a sefydlogrwydd cymharol.
A oes gennych y sgiliau a’r agwedd yr ydym yn chwilio amdanynt?
Os felly, hoffem glywed gennych. Cliciwch ar y ddolen isod i weld swydd-ddisgrifiad llawn ac i wneud cais.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am y swyddi hyn yw dydd Gwener 7 Chwefror.
DDANGOSWCH Y SWYDD