Erioed wedi meddwl beth y gall amgueddfeydd gynnig?
Bob blwyddyn yng Nghymru, mae’r ŵyl amgueddfeydd yn arddangos beth y gallwch weld yn eich amgueddfa leol ac yn rhoi cyfle i chi weld a dysgu rhywbeth newydd. Eleni, mae’n digwydd drwy gydol hanner tymor, o 28 Hydref tan 5 Tachwedd.
Yn Wrecsam gallwch ymgolli yng nghanol brwydr, mynd i’r afael ag Archarwyr neu gyfarfod arbenigwyr i ddarganfod rhagor am ddarnau arian o’r cyfnod Rhufeinig, hyd heddiw.
Hydref 28 yw eich cyfle chi i gyfarfod yr arbenigwyr, ac os oes gennych unrhyw hen ddarnau o arian rydych eisiau gwybod mwy amdanynt, dyma eich cyfle! Yn digwydd o 11am tan 3.30pm, bydd ‘Numismatics Say’ yn cael ei gynnal yn Amgueddfa Wrecsam, mae archebu lle o flaen llaw yn hanfodol felly ffoniwch 01978 297460 i sicrhau eich lle.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, aelod arweiniol pobl, cymunedau, partneriaethau, gwarchod y cyhoedd a diogelwch cymunedol: “Rydym yn cynnal digwyddiadau gwych yn Amgueddfa Wrecsam ac rydym wrth ein bodd yn cymryd rhan yng Ngŵyl Amgueddfeydd Cymru eleni. Os nad ydych erioed wedi ymweld â’r amgueddfa neu os ydych chi’n ymweld yn rheolaidd, dyma’r cyfle perffaith i ddarganfod yr hyn sydd gennym i’w gynnig. Mae yna rywbeth at ddant pawb.”
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Mae tair arddangosfa yn rhedeg drwy gydol yr Ŵyl Amgueddfeydd yn amgueddfa Wrecsam:
Archarwyr: Mae ‘Arwyr Heddiw’ yn dathlu ‘Superman’, ‘Dr Who’, ‘Spiderman’, ‘Batman’ ac ‘Wonder Woman’ fel arwyr eu cyfnod eu hunain drwy ddychymyg darlunydd wedi’i leoli yn Wrecsam, Neil Edwards.
Mae ‘Gwres y Frwydr’, arddangosfa ‘Ffenestr ar y Byd’ mwyaf diweddar amgueddfa Wrecsam, yn coffau stori ymgyrch y Cynghreiriaid yn yr Aifft a Phalestina ac yn tanlinellu rôl nodedig y lluoedd Cymreig ar y ffrynt hwnnw.
Mae ‘Cwilt Teiliwr Wrecsam’ ymysg yr enghreifftiau gorau o gelf gwerin Ewropeaidd – celf wedi’i wneud gan bobl gyffredin sydd yn aml â doniau a sgiliau eithriadol. Nid yw’r cwilt, a grëwyd yn y dref rhwng 1842 a 1852, wedi cael ei arddangos i’r cyhoedd yn Wrecsam ers 1933.
Gyda chymaint yn digwydd, peidiwch â cholli’r cyfle i ddysgu beth sydd gan eich amgueddfa i gynnig i chi!
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau
COFRESTRWCH FI