Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Be’ sy’n dod a gwerth £1 miliwn o arian i Wrecsam – ac yn ysgogi miloedd o negeseuon Trydar?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Be’ sy’n dod a gwerth £1 miliwn o arian i Wrecsam – ac yn ysgogi miloedd o negeseuon Trydar?
ArallArallPobl a lle

Be’ sy’n dod a gwerth £1 miliwn o arian i Wrecsam – ac yn ysgogi miloedd o negeseuon Trydar?

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 25, 2017 11:06 am
Rhannu
Darllen 7 funud
Be’ sy'n dod a gwerth £1 miliwn o arian i Wrecsam - ac yn ysgogi miloedd o negeseuon Trydar?
RHANNU

Bydd miloedd yn dod i Wrecsam fis Rhagfyr i gael cipolwg ar eu hoff actor, ymgodymwr, arwr pwerau mawr neu grëwr straeon comig pan fydd Comic Con Cymru yn digwydd ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Ffordd yr Wyddgrug.

Cynnwys
  • “Ymwelwyr yn gwario £1 miliwn”
  • “Pwy fydd yn y digwyddiad eleni?”
  • “Ymwelwyr yn gwario £1 miliwn”

Mae’r digwyddiad, sy’n cael ei gynnal am y 9fed tro yn olynol eleni, wedi tyfu dros y blynyddoedd i fod yn un hynod o lwyddiannus – yn wir mor llwyddiannus fel bod y trefnwyr, ers 2015, o ganlyniad i’r galw mawr gan y Mae Cosplay ynddo’i hun bob amser yn ddifyrcyhoedd, wedi trefnu dau ddigwyddiad y flwyddyn – un yn y gwanwyn ac un yn y gaeaf.

Os nad ydych wedi bod i Comic Con Cymru, neu i unrhyw Comic Con o gwbl, efallai y byddwch yn methu deall be’ ydi o? Mae Comic Con yn llwyfan i’r diwylliant poblogaidd lle daw ffans ffilm, teledu, y cyfryngau a sioeau at ei gilydd i weld eu hoff gymeriadau o sioeau hen a newydd. Gallwch gasglu llofnodion, tynnu lluniau a mynychu panelau cwestiwn ac ateb

“Ymwelwyr yn gwario £1 miliwn”

Gallwch chi hefyd gymryd rhan yn “cosplay” drwy fynychu wedi’ch gwisgo fel eich hoff gymeriad ffilm/teledu/comig a chymryd rhan yn y gystadleuaeth ar gyfer y wisg orau. Mae hyn yn un o’r uchafbwyntiau ar gyfer mynychwyr Comic Con Cymru ac mae hi bob amser yn ddifyr gweld safon y rhai sy’n cystadlu ac mae’n hwyl i bawb sy’n mynd i’r digwyddiad!

Mae ‘na hefyd lwyth o atyniadau eraill i’ch diddanu chi drwy’r dydd, gan gynnwys ceir a phropiau gwych o sioeau teledu a ffilm – pethau y byddai ffans iau yn hoff iawn o’u gweld. Mae trefnwyr hefyd yn gofalu fod digon i’w yfed a’i fwyta gan fod llond lle o stondinau bwyd, ac wrth gwrs stondinau sy’n gwerthu nwyddau perthnasol i ffilmiau, sioeau teledu ac arwyr comig.

“Pwy fydd yn y digwyddiad eleni?”

Wedi eu cadarnhau yn barod ar gyfer mis Rhagfyr mae seren y rhaglen Walking Dead Michael Cudlitz; Laura Vandervoort, seren Smallville a Party of Five; Sean Pertwee, Bwtler enwog Dinas Gotham; torrwr calonnau Hollywood – Lou Diamond Philips; Tamara Taylor, actores Bones; y llais enwog, Chris Sarandon, the Nightmare Before Christmas; y cyn bel-droediwr John Barnes; arwr y byd ymgodymu, Sting; fferfryn Only Fools and Horses “Boycie”, John Challis a llu o ffefrynnau eraill o fyd teledu a ffilmiau.

Bydd llawer o’r uchod yn cymryd rhan mewn sesiynau Cwestiwn ac Ateb y gellir eu mynychu am ddim drwy gydol y penwythnos.

I gael gwybod pwy fydd yno i gyd ewch i www.walescomicon.com – ‘da ni’n addo na fyddwch chi ddim yn siomedig a gallwn eich sicrhau y bydd ‘na rywun yno y byddech wrth eich bod yn eu gweld!

Yn y digwyddiad cyntaf yn 2008 a gafodd ei gynnal yn y Neuadd Chwaraeon yn unig, dim ond 153 o bobl ddaeth drwy’r drysau. Erbyn hyn mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar draws y campws cyfan, gan gynnwys Neuaddau Nick Whitehead a Williams Aston, Canolfan Catrin Finch a gild y myfyrwyr ac mae’r trefnwyr hefyd yn dod a phabell fawr! Y llynedd tyrrodd dros 20,000 o bobl drwy’r drysau ac mae’r trefnwyd yn gobeithio gweld y niferoedd mwyaf erioed yn mynychu eleni.

“Ymwelwyr yn gwario £1 miliwn”

Sgil effaith cymaint o ymwelwyr â Wrecsam yw’r manteision economaidd mawr. Cyfrifwyd y daeth y digwyddiad y llynedd â £1 miliwn o wariant ymwelwyr i’r economi lleol – ie – miliwn o bunnoedd mewn dim ond pedwar diwrnod! Gan fod y gwesteion, eu cynorthwywyr ac ymwelwyr sy’n teithio o bob rhan o Gymru a gweddill y rhanbarth i fynychu i gyd angen rhywle i aros, mae hyn yn golygu fod y sector lletygarwch hefyd ar eu hennill yn sgil y digwyddiad hwn sy’n digwydd ddwywaith y flwyddyn. Mae masnachwyr lleol a chenedlaethol hefyd wedi sylweddoli beth yw potensial y digwyddiad i’r farchnad gan roi cynigion arbennig i unrhyw un sy’n gwisgo band arddwrn Comic Con Cymru. Mae ei lwyddiant hefyd yn rhoi Wrecsam ar y map fel y lle i fod ddwywaith y flwyddyn pan fydd miloedd yn heidio i Wrecsam ar gyfer y digwyddiad.

Edrychwch ar y clip ffilm hysbysebu swyddogol ar gyfer digwyddiad Comic Con Cymru y llynedd – yn sicr nid dyma fyddech chi’n disgwyl ei weld yn Wrecsam ar benwythnos

Mae tocynnau ar gyfer digwyddiad mis Rhagfyr yma yn awr ar gael ar lein yn http://walescomiccon.com/tickets/

Y pris am docyn oedolyn yw £15 y diwrnod a dim ond £5 i blant o dan 14. Gallwch hefyd brynu tocynnau VIP a fydd yn roi mynediad blaenoriaeth i chi i’r sesiynau cwestiwn ac ateb; bag anrhegion i VIPs yn unig, rheffyn VIP, ac yn dibynnu ar y pris, talebau i gael tynnu llun gydag un neu ddau o’r gwesteion.

Mae manylion y sioe nesaf yn y gwanwn, sef 10fed pen-blwydd y digwyddiad hefyd yn dechrau cael eu rhyddhau ac mae ein cyfrif Twitter yn fwrlwm o sylwadau ac ymatebion gyda phob cyhoeddiad newydd.

Hoffem ddiolch i Comic Con Cymru am eu hamser a’u diddordeb mewn rhoi cipolwg i ni ar eu digwyddiad gwych ac am ein helpu i roi Wrecsam ar y map.

Be’ sy'n dod a gwerth £1 miliwn o arian i Wrecsam - ac yn ysgogi miloedd o negeseuon Trydar?
Be’ sy'n dod a gwerth £1 miliwn o arian i Wrecsam - ac yn ysgogi miloedd o negeseuon Trydar?
Be’ sy'n dod a gwerth £1 miliwn o arian i Wrecsam - ac yn ysgogi miloedd o negeseuon Trydar?
Be’ sy'n dod a gwerth £1 miliwn o arian i Wrecsam - ac yn ysgogi miloedd o negeseuon Trydar?
Be’ sy'n dod a gwerth £1 miliwn o arian i Wrecsam - ac yn ysgogi miloedd o negeseuon Trydar?
Be’ sy'n dod a gwerth £1 miliwn o arian i Wrecsam - ac yn ysgogi miloedd o negeseuon Trydar?
Be’ sy'n dod a gwerth £1 miliwn o arian i Wrecsam - ac yn ysgogi miloedd o negeseuon Trydar?
Be’ sy'n dod a gwerth £1 miliwn o arian i Wrecsam - ac yn ysgogi miloedd o negeseuon Trydar?
Be’ sy'n dod a gwerth £1 miliwn o arian i Wrecsam - ac yn ysgogi miloedd o negeseuon Trydar?
Be’ sy'n dod a gwerth £1 miliwn o arian i Wrecsam - ac yn ysgogi miloedd o negeseuon Trydar?
Be’ sy'n dod a gwerth £1 miliwn o arian i Wrecsam - ac yn ysgogi miloedd o negeseuon Trydar?
Rhannu
Erthygl flaenorol Deng mlynedd yn ddiweddarach...beth sy’n digwydd rŵan? Deng mlynedd yn ddiweddarach…beth sy’n digwydd rŵan?
Erthygl nesaf Mae'r Ŵyl Amgueddfeydd yn ôl! Mae’r Ŵyl Amgueddfeydd yn ôl!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi
Arall Pobl a lle
Awst 26, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Pobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 24, 2026
Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English