Cafodd grŵp o ymwelwyr rhyngwladol eu tywys o amgylch pencadlys Cyngor Wrecsam fel rhan o daith gyfnewid ddiwylliannol.
Roedd grŵp o 15 o bobl ifanc o Markischer Kreis – gefeilldref ddiwylliannol Wrecsam ers amser maith – wedi ymweld â Wrecsam yr wythnos ddiwethaf.
Roedd yr ymweliad yn rhan o draddodiad maith rhwng TuS Plettenberg a Chlwb Pêl-droed Albion Parc Borras, gafodd ei sefydlu tua 40 mlynedd yn ôl.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.
Mae gan y ddau glwb gysylltiadau cryf â’i gilydd – roedd cadeirydd Parc Borras Ivan Povey yn un o’r bobl ifanc cyntaf i gymryd rhan yn y daith gyfnewid i’r Almaen yn ôl yn 1980.
Fel rhan o daith wythnos o hyd, roedd y bobl ifanc o Markischer Kreis hefyd wedi ymweld â Stadiwm Anfield a pharc Alton Towers.
“Mae’n bwysig iawn cadw’r cysylltiadau diwylliannol”
Dywedodd y Cyng. John Pritchard, Maer Wrecsam: “Er bod gwaith gefeillio gyda ffrindiau yn yr Almaen wedi lleihau wrth i’r gyllideb dynhau, mae’n bwysig iawn ein bod ni yn Wrecsam yn cadw’r cysylltiadau diwylliannol gyda’r Almaen, ac mae ymweliadau fel y rhain yn gwneud llawer i gynnal y cyfeillgarwch rhyngwladol hwnnw.
“Felly, rwy’n ddiolchgar iawn i Albion Parc Borras a TuS Plettenberg am eu gwaith caled yn trefnu’r digwyddiad hwn ac roeddwn yn falch iawn o allu croesawu pobl ifanc i’r parlwr a Siambr y Cyngor yn ystod eu hymweliad.”
Dywedodd Mark Griffiths, trefnydd taith gyfnewid yr Almaen yn Albion Parc Borras: “Mae’r ymweliadau’n cael eu cynnal bob blwyddyn, gyda’r ymweliadau’n newid bob yn ail flwyddyn – bydd ein pobl ifanc ni yn mynd drosodd i Plettenberg y flwyddyn nesaf.
“Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn bod pobl ifanc o’r ddwy ochr yn cael ymweld â gwahanol rannau o’r byd a gweld gwahanol ddiwylliannau.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU