Cynhaliwyd seremoni torri’r dywarchen i nodi dechrau’r gwaith ailwampio mewn ysgol leol yn Johnstown.
Cafodd Ysgol yr Hafod fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd fel rhan o’r Rhaglen Ysgolion Band B y 21ain Ganrif gyda’r bwriad o wella’r safle â chyfleusterau gwell.
Y weledigaeth ar gyfer y prosiect yw datblygu’r hen ysgoldy i wneud lle i blant 3 i 11 oed ac uno’r ysgol ar un safle.
Dechrau pennod newydd
Gan fod y gwaith yn barod i ddechrau gyda chwmni Wynne Construction ar ochr Ffordd Bangor y safle, estynnwyd gwahoddiad i Faer Wrecsam, y Cynghorydd Ronnie Prince i ymuno â staff a chynrychiolwyr o’r cyngor i nodi’r achlysur.
Gyda’i raw yn ei law, torrodd y Maer y dywarchen gyntaf i ddathlu dechrau pennod newydd a chyffrous yn hanes yr ysgol.
Wrth siarad yn y seremoni, dywedodd y Maer: “Mae wir wedi bod yn bleser bod yma heddiw i gydnabod y datblygiad newydd bendigedig hwn yn ein cymuned. Bydd hyn o fudd mawr i lawer o genedlaethau fydd yn pasio drwy goridorau’r ysgol hon gan y bydd yn darparu’r cyfleusterau gorau bosibl i sicrhau dyfodol disglair i blant Wrecsam.”
“Diolch yn fawr i bawb sydd wedi gweithio mor ymroddgar i wireddu’r prosiect hwn. Rwyf yn dymuno’r gorau i chi yn y dyfodol a boed i’ch llwyddiannau barhau.”
Meddai Pennaeth Ysgol yr Hafod, Mrs Alison Heale: “Mae’n ddiwrnod arbennig iawn i ni yma yn Ysgol yr Hafod gan ei fod yn nodi dechrau dyfodol llewyrchus a chyffrous iawn i’n hysgol. Mae’r gwaith yn dechrau o ddifrif a phan fydd y gwaith adeiladu wedi’i gwblhau, byddwn yn cynnig y cyfleusterau gorau bosibl i’r plant ifanc sy’n dod drwy’n drysau bob blwyddyn.”
Roedd Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd Phil Wynn a’r cynghorydd lleol a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol yr Hafod, y Cynghorydd David A Bithell hefyd yn bresennol. Dywedodd y Cyng Wynn: “Bydd uno’r grwpiau oedran babanod ac iau ar un safle yn cynnig darpariaeth addysg wedi’i symleiddio i ddisgyblion Ysgol yr Hafod, ac ar yr un pryd yn darparu adeilad modern fydd yn gwasanaethu cymuned Johnstown am flynyddoedd i ddod.”
Gan adleisio’r sylwadau positif, dywedodd y Cyng Bithell: “Bydd hyn yn gwella’r cyfleusterau addysg yn sylweddol i blant a staff o 3-11 oed. Rydym yn gweithio gyda’n contractwr i sicrhau ein bod yn rhannu gwybodaeth am y gwaith fel mae’n mynd yn ei flaen ac rwyf yn falch ein bod wedi sicrhau £4.5 miliwn i ddod â’r plant i gyd i un safle mewn ysgol sy’n addas i’r 21ain ganrif. Rydym yn gobeithio bod ar y safle ym mis Ebrill 2023 mewn ysgol newydd.”
Dywedodd Mark Wilson, rheolwr prosiect gyda chwmni Wynne Construction: “Rydym yn falch iawn ein bod yn dechrau ar gyfnod adeiladu prosiect ailddatblygu Ysgol yr Hafod ac mae hyn yn dilyn y gwaith a wnaed gan ein tîm dylunio a fu’n cydweithio’n agos â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac aelodau allweddol er mwyn creu amgylchedd ysgol newydd ac ehangu’r ystod o wasanaethau addysgol safonol mae’r ysgol yn eu darparu.
“Bydd y datblygiad hwn yn hwb sylweddol i gymuned Johnstown, a bydd yn creu etifeddiaeth barhaus o gymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu, ac yn caniatáu i’n partneriaid yn y gadwyn gyflenwi i gadw gwariant y prosiect yn lleol lle bo hynny’n bosibl, a thrwy ymgysylltu â disgyblion a dysgwyr i arddangos gwaith adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
“Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau’r gwaith a chyflawni prosiect o ansawdd uchel, lle bydd y disgyblion yn gallu ehangu eu gwybodaeth eu hunain mewn ffordd gyfforddus a chynyddol.”