Warm Places

Rydym yn parhau i weithio gyda’n partneriaid lleol i greu rhwydwaith o fannau cynnes – lleoliadau lle gall preswylwyr lleol ddod ynghyd i gadw’n gynnes, cymryd rhan mewn gweithgareddau, cael cyngor ac efallai cael paned hefyd.

Mae’r trydydd a rownd olaf arian grant yn cael ei hysbysebu ar hyn o bryd gyda dyddiad cau o 31 Rhagfyr 2023.

Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.

Gall grwpiau a sefydliadau wneud cais am £1,000 i gynnig man cynnes i’n preswylwyr i’w redeg ochr yn ochr â’u gweithgareddau presennol.

Gellir defnyddio’r arian i’w osod yn erbyn ystod o gostau – er enghraifft, costau ynni, costau gweithgareddau, deunyddiau sydd eu hangen neu gostau staffio.

I wneud cais darllenwch y Siarter ar gyfer Wrecsam ac Amlinelliad Cyllid a Chanllawiau  Llywodraeth Cymru ac yna, os ydych chi’n hapus, cwbl

Cofiwch gynnwys:

  • Dadansoddiad llawn o’r gylildeb
  • Nifer y sesiynau, diwrnod ac amser yr wythnos
  • Amcangyfrif o nifer y bobl y gellir eu dennu yn wythnosol
  • Amcangyfrif o nifer y gwirfoddolwyr a ddefnyddir yn wythnosol

Siarter Mannau Cynnes ar gyfer Wrecsam

Ffurflen Gais Mannau Cynnes

Os oes gennych chi syniad ond ddim yn siŵr sut i’w gyflwyno fel cais neu os ydych chi angen cymorth i wirfoddolwyr neu gymorth i sefydlu grŵp nid er elw er mwyn gwneud cais, cysylltwch â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam, Info@avow.org neu ffoniwch 01978 312556. Darperir y gwasanaeth yn rhad ac am ddim.

Gall Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam hefyd gynorthwyo gyda hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr ar ystod o bynciau yn cynnwys hyfforddiant achrededig diogelwch bwyd, Hawliau Lles a Chyflwyniad i Ymgeisio am Grantiau.

“Bydd mannau cynnes yn cael eu gwerthfawrogi yn ystod y misoedd nesaf”

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol Costau Byw, “Mae llawer o bobl yn cael trafferth dod a dau ben llinyn ynghyd ac wrth i ni wynebu’r tywydd oer, bydd mannau cynnes yn cael eu gwerthfawrogi gan breswylwyr yn ystod y misoedd nesaf fel rhywle croesawgar i fynd iddynt.  Os ydych chi’n grŵp neu sefydliad yn Wrecsam, dylech ystyried gwneud cais am y grant i wneud bywyd ychydig yn haws i bobl yn eich cymuned.”

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI