Bydd digwyddiad plannu coed cymunedol ar ddydd Sadwrn 21 Ionawr ym Mharc Pry’ Copyn, Acton o 10am. Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn coed a choetiroedd ledled y sir fel rhan o’r Strategaeth Coed a Choetir ac Addewid Coetir Wrecsam.
Byddwn yn plannu coed bychan a safonol ym Mharc Pry’ Copyn trwy gydol fis Ionawr a Chwefror i ddod a chynefin a chysylltedd sydd gwir eu hangen i fywyd gwyllt trefol.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Mae gennym 2 sesiwn y gallwch gymryd rhan ynddynt, bydd y sesiwn bore o 10-12pm a’r sesiwn prynhawn o 1-3pm felly ymunwch â ni a helpu i blannu coeden ar gyfer dyfodol mwy gwyrdd.
Gofynnir i bawb wisgo dillad cynnes ac esgidiau glaw, a dod a hetiau, sgarffiau a menig i gadw’n gynnes. Pawb i gyfarfod ger Eglwys Sant John ar Herbert Jennings Avenue.
Os hoffech wneud sylw ar unrhyw un o’r ardaloedd arfaethedig gallwch anfon e-bost at woodlandpledge@wrexham.gov.uk. Gallwch hefyd ddangos eich cefnogaeth ar gyfer amddiffyn coed a choetiroedd yn Wrecsam trwy Addewid Coetir Wrecsam ar ein gwefan Addewid Coetir Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a thrwy Facebook a Twitter.
Y llynedd cawsom lwyddiant tebyg ym Mharc Acton ble bu i blant ac oedolion o ysgolion a chymunedau lleol helpu i blannu 1500 o goed, a ariannwyd trwy Trees for Cities.
Rydym yn hynod o ddiolchgar i Trees for Cities sy’n cefnogi’r cynllun plannu coed hwn ac am yr adborth a’r gefnogaeth gadarnhaol a gafwyd gan y gymuned leol a gwaith caled Ysgolion Cynradd Parc Borras, Wats Dyke, Alexandra a Rhosddu ac Ysgol Uwchradd Rhosnesni.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI