Yn ddiweddar bu ein staff Safonau Masnach ynghyd â Heddlu Gogledd Cymru allan gyda thri phlentyn 15 oed ar ymarfer yn Wrecsam i geisio prynu cyllyll.
Mae gwerthu cyllell i rywun o dan 18 oed yn anghyfreithiol ac mae’n drosedd sy’n golygu y gallai’r sawl sy’n gwerthu’r gyllell a pherchennog y busnes fynd i’r carchar a/neu wynebu dirwy ddiderfyn, ac mae swyddogion yn awyddus iawn i sicrhau fod manwerthwyr yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau dan y gyfraith.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Fe ymwelwyd â naw eiddo, ac ni werthwyd cyllell i unrhyw un, newyddion gwych!
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae troseddau â chyllyll wedi bod yn y penawdau’n genedlaethol dros y misoedd diwethaf ac mae canlyniadau’r ymarfer yma yn Wrecsam yn newyddion da iawn. Mae’n galonogol fod masnachwyr yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau a’u bod yn hapus i ddilyn y gyfraith i atal cyllyll rhag mynd i ddwylo’r rhai o dan 18 oed.”
Fe ganmolodd swyddogion a fu’n rhan o’r ymarfer un siop yn benodol am eu bod wedi gosod cloeon ar ddiwedd yr arddangosfa oedd yn golygu bod yn rhaid galw am aelod o staff er mwyn cymryd y gyllell allan o’r cwpwrdd. Yn amlwg mae hynny’n golygu un cam ychwanegol cyn cael gafael ar gyllell.
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD