Bydd y Farchnad Stryd Cyfandirol boblogaidd, sydd eisoes wedi ymweld â 20 lleoliad gwahanol fel rhan o daith 2018 yn ymweld â chanol tref Wrecsam yn eu digwyddiad olaf eleni.
Gallwch ddisgwyl ddod o hyd i gymysgedd o fasnachwyr rhyngwladol a fydd yn cynnwys llawer o opsiynau bwydydd stryd i’ch temtio. Bydd y digwyddiad ar agor rhwng 10 a 5pm dydd Mercher i ddydd Sadwrn, a bydd yng nghanol y dref ar Stryt yr Hôb a Stryt y Frenhines.
“Disgwyliwch fwrlwm yn yr ardal”
Bydd masnachwyr o bob cwr o’r byd wrth law i arddangos y cynnyrch gorau sydd gan eu gwledydd i’w gynnig. Bydd amrywiaeth eang o gynnyrch ar gael, o grefftau anghyffredin, i fasnachwyr bwyd yn cynnig y cynnyrch poeth ac oer gorau o’u mamwledydd. Disgwyliwch i’r ardal fod yn llawn bwrlwm gyda golygfeydd, synau ac arogl y cyfandir.
Caiff y digwyddiad ei redeg gan RR Events, cwmni Rheoli Digwyddiadau sydd wedi’i leoli yn Lerpwl sydd yn arbenigo mewn digwyddiadau arbennig a marchnadoedd thema. Bydd y digwyddiadau thema yma yn teithio ar hyd a lled y DU yn rhan o’i daith 2018, ac mae’n falch o fod yn ychwanegu cyrchfan newydd i’w restr o hirfaith.
Dywedodd Tony Walsh, Rheolwr Gyfarwyddwr RR Events: “Mae ein tîm o staff a masnachwyr wedi bod yn rhan o ddigwyddiadau ar draws Ewrop ers dros 10 mlynedd. Rydym yn arbennig o falch o’n digwyddiadau Marchnad Stryd Cyfandirol, gan ein bod yn gwybod am yr awyrgylch y maent yn eu creu yn y trefi a’r dinasoedd rydym ni’n ymweld â nhw. Fe hoffem ddiolch i Gyngor Bwrdeistref Wrecsam em eu gwaith caled yn hwyluso’r digwyddiad yma, a gobeithio y bydd yn boblogaidd iawn yn lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Adfywio Economaidd:
“Newyddion Rhagoro”
“Mae hyn yn newyddion ardderchog ac mae’n hwb pellach i economi canol y dref. Bydd llawer o bobl yn ymweld â’r farchnad boblogaidd tra’i bod yma a bydd modd iddynt fynd i gael cip ar y marchnadoedd a siopau canol y dref a chael golwg ar y gwaith ailwampio a fydd wedi cael ei gwblhau erbyn i’r farchnad gychwyn”.
O ddydd Mercher 7 i ddydd Sadwrn 10 Tachwedd, bydd tua 20 masnachwr yn gwerthu danteithion gastronomaidd ac eitemau crefft gorau eu cyfandir. Bydd y bwyd ar gael yn amrywio o gacennau a theisennau crwst i’r rhai sydd â dant melys, cawsiau ac olifau gyda blas i’r rhai sydd yn ffafrio bwydydd sawrus, yn ogystal â llawer o fwydydd poeth megis Gyros Groegaidd, Paella o Sbaen a Pad Thai.
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN