Unwaith eto, mae Wrecsam wedi cael ei syfrdanu gan farchnad Nadolig Fictoraidd anhygoel sy’n cael ei gynnal yn San Silyn yn ystod y prynhawn heddiw.
Yn dechrau am hanner dydd heddiw ac yn parhau tan heno, mae’r digwyddiad blynyddol wedi tyfu mewn maint a phoblogrwydd o un flwyddyn i’r llall, ac eleni mae’n fwy ac yn well nag erioed.
Mae dros 100 o stondinau wedi eu gosod yn ymestyn o Sgwâr San Silyn a Sgwâr y Frenhines, ac mae nifer o ymwelwyr wedi bod yn pori am fargeinion i’w hychwanegu at eu siopa Nadolig. Gallwch ddewis o ystod eang o eitemau hyfryd yn cynnwys gwin, losin, a melysion. Mae hyn yn ffordd wych i adeiladu ar lwyddiant marchnad llynedd (fideo isod) a atynnodd dros 15,000 o bobl.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Nid yn unig bydd cyfle i chi brynu anrhegion gwych i’ch teulu a ffrindiau, ond tra byddwch yn ymlwybro o gwmpas y farchnad bydd band pres ac organ dro yno fel adloniant gyda charwsél a sioe ‘Punch a Judy’ i’r rhai bach – mae rhywbeth i bawb!
“Pa ffordd well i fynd i hwyliau’r ŵyl na tharo heibio a mwynhau’r amrywiaeth o bethau sydd ar gael yn y Farchnad Fictoraidd” meddai’r cynghorydd Terry Evans, sydd wedi bod ymysg y rhai yn mwynhau’r farchnad yn ystod y prynhawn.
“Mae’n wych gweld gymaint o bobl yn dod i Wrecsam i gefnogi’r digwyddiad hwn, gan gymysgu gyda’i gilydd a chofleidio tymor ewyllys da.
“Mae cyfnod y Nadolig o hyd yn rhoi hwb i’r dref ac mae’r gymuned yn elwa o ddigwyddiadau fel hyn sydd o fudd i’r economi lleol, sydd ond yn beth da.”
Heb gael y cyfle i ddod draw eto? Bydd y farchnad ac adloniant ar agor tan 8pm heno, felly dewch yn llu!
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.