Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mark Lewis Jones yw llywydd yr ŵyl
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Mark Lewis Jones yw llywydd yr ŵyl
DigwyddiadauPobl a lle

Mark Lewis Jones yw llywydd yr ŵyl

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 20, 2025 10:03 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Mark Lewis Jones yw llywydd yr ŵyl
Llun gan Cat Arwel
RHANNU

Heddiw cyhoeddodd yr Eisteddfod mai’r actor arobryn, Mark Lewis Jones, a ddaw’n wreiddiol o bentref Rhosllannerchrugog fydd Llywydd yr Ŵyl Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni, yn dilyn gwahoddiad gan y pwyllgor gwaith lleol.

Bydd yn annerch y gynulleidfa o lwyfan y Pafiliwn ar Faes yr Brifwyl, yn ystod wythnos yr Eisteddfod a gynhelir ar gyrion dinas Wrecsam o 2-9 Awst eleni.

Mae wyneb Mark Lewis Jones, a anwyd ac a fagwyd yn Rhos, yn adnabyddus i bawb, a dywed i’r gefnogaeth a’r anogaeth a gafodd gan ei gymuned leol fod yn greiddiol iddo a’i yrfa fel actor dros y 40 mlynedd ddiwethaf.

Ymunodd â’r theatr ieuenctid yn Theatr Clwyd cyn mynd i astudio drama yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Yna, bu’n gweithio yn Theatr Clwyd cyn symud i Lundain am 27 mlynedd, a symud wedyn i Gaerdydd a phriodi ei wraig, Gwenno.

Mae wedi ymddangos ar nifer fawr o sioeau teledu eiconig y cyfnod diweddar, gan gynnwys ‘The Crown’, ‘Outlander’, ‘Game of Thrones’, ‘Chernobyl’, ‘Keeping Faith’, ‘Man Up’ a ‘Baby Reindeer’.

Ymddangosodd hefyd mewn ffilmiau sy’n enwog dros y byd, gan gynnwys ‘Star Wars: The Last Jedi’ a’r ffilm ddiweddar o Ganada, ‘Sweetland’.

Ac wrth gwrs, mae wedi actio mewn llu o gyfresi drama ar S4C gan gynnwys ‘Dal y Mellt’, ‘Con Passionate’, ‘Calon Gaeth’ ac ‘Y Pris’.

Wrth sôn am y gwahoddiad gan yr Eisteddfod, dywedodd, “Ro’n i mor falch i gael y gwahoddiad i fod yn Llywydd. Doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl o gwbl ac rwy’n hollol ‘chuffed’ ac yn edrych ymlaen yn fawr at gael bod yn yr Eisteddfod. Mae gen i deulu yn y Rhos o hyd ac rwy’n mynd adref i’r pentref yn rheolaidd.”

Mae Mark Lewis Jones yn dilyn amryw o Gymry amlwg fel Llywydd yr Ŵyl dros y blynyddoedd, gan gynnwys y cyflwynydd a’r DJ, Huw Stephens, yr hanesydd Elin Jones a chyn-reolwr cynorthwyol tîm pêl-droed dynion Cymru, Osian Roberts.

Cyflwynir anerchiad Llywydd yr Ŵyl ar lwyfan y Pafiliwn am 12:50, ddydd Sadwrn 2 Awst. Bydd Mark Lewis Jones hefyd yn cael ei anrhydeddu gan Orsedd Cymru fore Gwener, 8 Awst.

Am ragor o wybodaeth am yr Eisteddfod ac i brynu tocynnau, ewch i www.eisteddfod.cymru

Rhannu
Erthygl flaenorol Lend & Mend Ty Pawb logo Benthyca a Thrwsio yn Nhŷ Pawb – benthyca clyfar, byw yn gynaliadwy!
Erthygl nesaf Social services Helpwch i lunio dyfodol gwasanaethau cymdeithasol i oedolion yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English