Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Meddalwedd iaith ar gael am ddim i helpu gydag addysgu a gweithio gartref yn ystod y pandemig coronafeirws – a thu hwnt
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Meddalwedd iaith ar gael am ddim i helpu gydag addysgu a gweithio gartref yn ystod y pandemig coronafeirws – a thu hwnt
Busnes ac addysg

Meddalwedd iaith ar gael am ddim i helpu gydag addysgu a gweithio gartref yn ystod y pandemig coronafeirws – a thu hwnt

Diweddarwyd diwethaf: Mai 28, 2020 3:43 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
New resource lets pupils practice their Welsh language skills from home
RHANNU

Datganiad i’r wasg gan Brifysgol Bangor

Mae Cysgliad, pecyn meddalwedd sy’n cynnwys gwirydd iaith a gramadeg Cymraeg, yn awr ar gael i’w lwytho i lawr am ddim yn sgil partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Llywodraeth Cymru.

Y gobaith yw y bydd hyn yn cefnogi disgyblion sy’n derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a’u rhieni, yn ogystal â phobl sy’n gweithio gartref a sefydliadau bychain yn ystod y pandemig coronafeirws – a thu hwnt.

Lansiwyd y fersiwn gyntaf o’r gwirydd sillafu Cymraeg – CySill – yn 1988. Hyd yma, bu rhaid i ddefnyddwyr dalu am drwydded i ddefnyddio’r feddalwedd, sydd bellach yn cynnwys geiriaduron a gwirydd gramadeg, ar eu cyfrifiadur Windows.

Ond o heddiw ymlaen, gall unigolion, ysgolion a sefydliadau sy’n cyflogi llai na 10 o bobl lwytho’r pecyn i lawr a’i ddefnyddio am ddim.

Daw hyn fel rhan o becyn o gefnogaeth i helpu plant a’u teuluoedd, a’r cyhoedd yn gyffredinol, i ddefnyddio’r Gymraeg wrth weithio gartref yn ystod yr argyfwng presennol.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Eluned Morgan AS, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru fod adnoddau ychwanegol yn cael eu rhyddhau i gefnogi dysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn ystod y pandemig coronafeirws, ac mae Cysgliad am ddim yn un ohonynt.

Meddai: “Rwy’n arbennig o falch fod Cysgliad yn awr ar gael am ddim i unigolion a sefydliadau bychain, o ganlyniad i’r bartneriaeth hon rhwng Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Bangor.

“Bydd hyn o fudd mawr yn arbennig i rieni di-Gymraeg sydd â’u plant yn mynychu ysgolion Cymraeg, yn ogystal â’r disgyblion eu hunain, busnesau bychain, elusennau ac eraill sy’n defnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd.”

Ychwanegodd Delyth Prys, Pennaeth yr Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor: “Roedden ni’n gwybod o adborth defnyddwyr dros y blynyddoedd fod Cysgliad yn declyn hynod werthfawr i bobl sy’n ysgrifennu a defnyddio’r Gymraeg – ac mae’n help mawr i gynyddu hyder.

“Rydyn ni’n falch iawn fod y drwydded am ddim ar gael i helpu pobl sy’n dysgu, addysgu a gweithio gartref yn ystod y cyfnod anodd hwn. Edrychwn ymlaen at weld rhagor o bobl o bob oed yn llwytho Cysgliad i lawr ac yn defnyddio’r feddalwedd, ac yn cael mwy o hyder i ddefnyddio’r iaith o wneud hynny.”

Mae Anest Heulfryn Smith, sy’n 11 oed ac fel arfer yn mynychu Ysgol Gynradd Bontnewydd, wedi bod yn defnyddio Cysgliad tra’n derbyn addysg gartref. Meddai: “Da ni’n defnyddio Cysgliad yn yr ysgol ac mae’n help mawr i wirio fy sillafu.

“Dwi hefyd yn hoffi defnyddio’r geiriadur a’r thesawrws i wella fy ngeirfa a dod o hyd i ffyrdd mwy diddorol o ddisgrifio pethau pan dwi’n sgwennu. Mae’n dda bod plant fel fi yn gallu defnyddio Cysgliad gartef i helpu gyda’n gwaith ysgol.”

Mae Tim Albin o Gwm-y-Glo yn rhedeg asiantaeth brandio a dylunio. Mae ar hyn o bryd yn addysgu ei ddau fab, Oscar, 14 a Milo, 10, gartref tra hefyd yn rhedeg y busnes. Meddai Tim: “Mae Cymraeg yn ail iaith i mi, felly mae’n wych cael rhywbeth ymarferol fel hyn i fy helpu i helpu’r hogiau gyda’u pynciau cyfrwng Cymraeg tra mae’r ysgolion yn dal ar gau.

“Mae’r pecyn hefyd yn ddefnyddiol iawn pan dwi’n gweithio ar brosiectau dwyieithog i gleientiaid, trwy fedru gwirio fy iaith a gramadeg wrth wneud tasgau fel datblygu cysyniadau a drafftio negeseuon e-bost.”

I lwytho Cysgliad i lawr am ddim, ewch i www.Cysgliad.com

Mae Cysgliad yn rhedeg ar ddyfeisiadau Windows 7, 8 a 10. Gall defnyddwyr MacOS a Linux ddefnyddio adnoddau ar-lein sydd ar gael ar wefan Cysgliad.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol ceiriog valley Dyffryn Ceiriog am Ginio Dan Glo
Erthygl nesaf Mind of my Own Ap Mind of My Own yn cael ei lansio ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Groundwork
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Eisiau dysgu rhywbeth newydd? Mae disgwyl i Groundwork Gogledd Cymru ddarparu dosbarthiadau dysgu cymunedol AM DDIM ar draws Wrecsam a Sir y Fflint

Gorffennaf 22, 2026
Bethan, Noah a Gill
Busnes ac addysg

“Gwasanaeth ymroddedig i blant, teuluoedd a staff” – athrawes sydd wedi gwasanaethu am 43 mlynedd yn ymddeol

Gorffennaf 20, 2026
Youth Services Survey - young peope
Busnes ac addysgPobl a lle

Cwblhewch ein harolwg a helpwch i lunio dyfodol gwasanaethau ieuenctid yn Wrecsam

Gorffennaf 9, 2026
Ysgol Clywedog wedi'i symud o’r rhestr mesurau arbennig yn dilyn adroddiad cadarnhaol gan Estyn
Busnes ac addysg

Ysgol Clywedog wedi’i symud o’r rhestr mesurau arbennig yn dilyn adroddiad cadarnhaol gan Estyn

Gorffennaf 6, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English