Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Meddwl mynd i Wrecsam y penwythnos hwn? Os felly cofiwch gynllunio eich ymweliad
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Meddwl mynd i Wrecsam y penwythnos hwn? Os felly cofiwch gynllunio eich ymweliad
Y cyngor

Meddwl mynd i Wrecsam y penwythnos hwn? Os felly cofiwch gynllunio eich ymweliad

Diweddarwyd diwethaf: Awst 28, 2020 8:52 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Night out
RHANNU

Wrth i’r olaf o wyliau banc y gwanwyn a’r haf agosáu, mae’n bosib y bydd llawer ohonoch yn meddwl galw yn y dref am ddiod gyda theulu neu ffrindiau – wedi’r cyfan fydd na ddim gŵyl banc arall tan y Nadolig.

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

Mae’r tafarndai’n edrych ymlaen yn fawr at eich gweld chi ond mae’n rhaid iddyn nhw wneud pethau’n wahanol iawn ar hyn o bryd, felly cynlluniwch ymlaen llaw a:

  • Bwciwch ymlaen llaw –  mae llawer o fusnesau rŵan yn gofyn i bobl drefnu eu hymweliad ymlaen llaw er mwyn iddynt allu rheoli niferoedd yn gywir ac yn ddiogel.  Holwch nhw a oes angen bwcio ymlaen llaw er mwyn osgoi siom neu giwio.
  • Arhoswch 2 fetr ar wahân os oes rhaid i chi giwio i fynd i mewn i rywle. Ystyriwch fynd i dafarn arall lle nad oes ciw, neu byddwch yn amyneddgar
  • Ewch â gorchudd wyneb efo chi os ydych yn bwriadu mynd adref mewn tacsi – mae’n rhaid gwisgo un ar bob siwrnai mewn tacsi erbyn hyne for all taxi journeys
  • Rhowch fanylion cyswllt cywir. Os bydd unrhyw eiddo’n cael ei adnabod  fel un y bu rhywun sydd wedi profi’n bositif am y Coronafeirws ynddo bydd yn golygu y gall y timau Profi, Olrhain a Diogelu gysylltu â chi’n gyflym

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Diogelu’r Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “ Mae’n hanfodol bwysig ein bod ni i gyd yn aros yn wyliadwrus, mae Covid-19 yn dal efo ni ac mae’n rhaid i ni i gyd ddilyn y canllawiau er mwyn cadw Wrecsam yn ddiogel.

“Mae’r rhyddid sydd gennym rŵan wedi dod ar ôl ymdrech galed; mae llawer o bobl wedi marw ac mae’n bwysig nad ydym yn aberthu’r hyn yr ydym wedi’i wneud hyd yma. Fyddai gorfod cyhoeddi cyfnod clo arall o fantais i neb.

“Cofiwch mai cadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo yw’r pethau mwyaf pwysig i atal lledaeniad y feirws hwn ac fe ddylent ddod yn rhan o’n hymddygiad arferol wrth i’r hydref agosáu.”

Hyd yn hyn mae heddlu ardaloedd gwledig a chanol tref Wrecsam a’n staff trwyddedu yn dweud fod deiliad trwydded ar y cyfan yn gwneud gwaith gwych wrth reoli cwsmeriaid a staff a’u cadw nhw’n ddiogel ond nid yw hynny’n golygu bod y feirws wedi mynd.  Dydi’r feirws ddim wedi mynd, ac er mwyn osgoi dod i gysylltiad ag o neu ei roi o i rywun arall cymerwch bob gofal i osgoi trosglwyddiad pellach.

Gallwch wneud hyn drwy gynllunio eich noson allan yn ofalus er mwyn i chi allu mwynhau eich hunan.

Cofiwch fod y mesurau i gyd yn eu lle i atal lledaeniad y Coronafeirws ac rydym wirioneddol angen eich help chi i Gadw Wrecsam yn Ddiogel.

Sut i gael prawf

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Back to School Covid 19 – yr wybodaeth yr ydych ei angen cyn i’ch plentyn fynd yn ôl i’r ysgol
Erthygl nesaf green bin Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: GALLWCH BELLACH DALU AM EICH BIN GWASTRAFF GARDD GWYRDD AR-LEIN

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English