Back to School

Os ydych yn rhiant neu’n ofalwr, byddwch yn gwybod y bydd ysgolion ar draws Wrecsam yn agor ar gyfer y tymor newydd dydd Mawrth, 1 Medi.

Ar gyfer y mwyafrif o ysgolion, dychwelyd yn raddol fydd yn digwydd dros y pythefnos, gyda grwpiau blwyddyn gwahanol yn dod i mewn ar wahanol ddiwrnodau, a bydd eich ysgol yn cysylltu â chi i gadarnhau’r trefniadau.

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

Rydym i gyd yn gwybod ei bod wedi bod yn flwyddyn anodd oherwydd y Coronafeirws, ac mae’n naturiol bod rhieni, gofalwyr a phlant yn poeni ychydig am y tymor newydd.

Fel cyngor, rydym eisiau eich sicrhau bod iechyd ein cymunedau yn dod yn gyntaf, a bod cynlluniau mewn lle i sicrhau bod dychwelyd i’r ysgol mor esmwyth a diogel â phosib.

Gallwn i gyd chwarae rhan

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg “Mae llawer iawn o gynllunio wedi bod yn mynd ymlaen tu ôl y llenni, gyda’r cyngor, ysgolion a darparwyr cludiant yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod canllawiau’r llywodraeth yn cael eu dilyn.

“Bydd trefniadau ychydig yn wahanol o ysgol i ysgol, yn ddibynnol ar yr amgylchiadau. Ond os ydym yn chwarae ein rhan – ac yn dilyn pob canllaw gan ysgolion a’r cyngor – dylai’r dychweliad i’r ysgol fod yn brofiad boddhaol a phleserus i bob plentyn.

“Fel rhan o hyn, rydym yn gofyn i rieni roi gair i gall i’w plant ynghylch hylendid a diogelwch – gan gynnwys yr angen i olchi eu dwylo’n rheolaidd, a dal unrhyw dagiadau neu disian.”

“Bydd pob ysgol uwchradd yn Wrecsam yn gofyn i ddisgyblion prif ffrwd wisgo gorchuddion wyneb mewn ardaloedd cymunedol fel coridorau. Mae’r penderfyniad hwn wedi derbyn cefnogaeth lwyr. Mae penaethiaid wedi gweithio’n galed i roi mesurau ar waith i ddiogelu pawb yn eu gofal a dyma’r enghraifft ddiweddaraf o ddilyn argymhellion Llywodraeth Cymru yn ddi-oed. Gofynnwn i rieni gefnogi ysgol eu plentyn drwy sicrhau bod eu plentyn yn ymwybodol o’r angen i wisgo gorchudd wyneb er mwyn diogelu eu hunain, y bobl o’u hamgylch, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach er mwyn diogelu Wrecsam.”

Pethau y gall rhieni a gofalwyr eu gwneud i helpu

    1. Dilyn unrhyw gyngor y mae eich ysgol yn ei roi i chi
    2. Bod yn amyneddgar – nid ydym erioed wedi bod mewn sefyllfa fel hyn o’r blaen, ac efallai bydd arnom angen addasu ychydig fel yr ydym yn mynd yn ein blaenau
    3. Atgoffa eich plentyn i orchuddio eu ceg wrth disian – yn yr ysgol neu/ac wrth deithio i’r ysgol (er enghraifft ar y bws). Ei ddal, ei daflu, ei ddifa
    4. Atgoffa eich plentyn i olchi eu dwylo’n rheolaidd – gan gynnwys cyn ac ar ôl defnyddio cludiant cyhoeddus neu gludiant o’r ysgol, a phryd bynnag y mae staff yr ysgol yn gofyn iddynt wneud.
    5. Os ydych yn gollwng a chasglu eich plant, peidiwch ag ymgasglu wrth giatiau’r ysgol. Cadwch o leiaf 2 fedr i ffwrdd o rieni eraill (tu allan eich aelwyd estynedig), cadwch at gyfarwyddiadau gan eich ysgol, a pheidiwch ag aros o gwmpas yn hirach na sydd ei angen
    6. Peidiwch ag anfon eich plentyn i’r ysgol os ydynt neu unrhyw un yn eu haelwyd estynedig gyda symptomau
  1. Peidiwch ag anfon eich plentyn i’r ysgol os ydynt hwy neu rywun yn eu haelwyd estynedig – wedi cael eu cynghori i gael prawf Covid-19 (er enghraifft, gan y tîm olrhain)
  2. Sicrhewch fod gan eich plant gorchudd wyneb i’w defnyddio yn y mannau cymunol tra yn yr ysgol
  3. Ewch i weld trefniadau cludiant i’r ysgol yma
  4. Gwiriwch y newyddion diweddaraf ar brydau ysgol yma

Cadw ein hysgolion yn ddiogel

Ychwanegodd y Cynghorydd Wynn “Fel Cyngor, rydym yn datgloi gwasanaethau a chyfleusterau yn araf ac yn ddiogel yn unol â’r canllaw diweddaraf a thystiolaeth wyddonol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu.

“Mae hyn yn cynnwys ein hysgolion, a diogelwch ein plant, staff a chymunedau sydd yn flaenoriaethau i ni.

“Ond rydym yn gofyn i chi fel rhieni a gofalwyr i’n helpu ni… gan wneud yn siŵr bod eich plant yn deall rhai o’r canllawiau sylfaenol, ac yn dilyn unrhyw gyngor y mae eich ysgol yn ei ddarparu.

“Rydym yn gobeithio y bydd dychwelyd i’r ysgol yn brofiad da i bawb, a bod plant yn benodol yn mwynhau ailgysylltu â’i ffrindiau ac athrawon gan ddysgu mewn ystafell ddosbarth cefnogol.

“Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i wneud y tymor newydd yn llwyddiant, a chadw Wrecsam – a’n hysgolion, yn ddiogel”

Sut i gael prawf

YMGEISIWCH RŴAN