Rydym ni’n cefnogi ymgyrch Boys need Bins gan Prostate Cancer UK, gan olygu mai ni fydd y Cyngor cyntaf yng ngogledd Cymru i osod biniau glanweithiol mewn toiledau cyhoeddus yng nghanol dinas Wrecsam.
Nod yr ymgyrch yw rhoi’r un mynediad i ddynion i finiau glanweithiol ag sydd gan ferched ar hyn o bryd, a thynnu sylw at y rhwystr y gall anymataliaeth ei achosi, yn enwedig i bobl sydd ag Afiechyd Crohns a Chancr y Prostad.
- Fe fydd 1 mewn 8 o ddynion yn cael cancr y prostad, a’r sgil effeithiau i rai oherwydd eu triniaeth, yw problemau gyda’u pledren a pherfedd.
- Yn y DU, fe fydd tua 1 mewn 3 o ddynion dros 65 oed yn cael problemau anymataliaeth troethol, tra y bydd 1 mewn 20 o ddynion dros 60 oed yn cael problemau anymataliaeth gyda’u perfedd.
- Does gan nifer o’r dynion yma ‘nunlle cyfleus na disylw i gael gwared ar eu gwastraff glanweithiol. Nid yw hynny’n ddigon da.
Lle mae’r biniau glanweithiol newydd i ddynion?
- Gorsaf Fysiau Wrecsam
- Toiledau Stryt Henblas
- Tŷ Pawb
- Neuadd Goffa Wrecsam
Meddai Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adnoddau, “Daeth hyn i’m sylw i pan gododd aelod o’r cyhoedd y mater gyda chyd gynghorydd, a gysylltodd â mi yn ei dro.
“Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i ddynion ar draws y DU sydd angen biniau glanweithiol ddefnyddio cyfleusterau anabl neu hyd yn oed gario bag gyda nhw. Mae’r ddau yn stigmateiddio ac yn ddiraddiol ac rydw i’n falch o ddweud bod y sefyllfa yn Wrecsam bellach wedi gwella er eu lles nhw.
“Rydw i’n gobeithio gweld nifer o sefydliadau eraill ar draws y fwrdeistref sirol yn ymuno â ni a chynnig biniau glanweithiol yn eu cyfleusterau er mwyn helpu i wella’r sefyllfa hyd yn oed ymhellach”.
Meddai Nick Ridgman, Pennaeth Gwybodaeth Iechyd a Chefnogaeth Glinigol yn Prostate Cancer UK: “Mae dyn sydd yn byw ag anymataliaeth yn haeddu’r rhyddid i adael y tŷ heb boeni a fydd o’n gallu cael gwared ar y padiau y mae wedi’u defnyddio yn lanweithiol ac yn ddisylw.
“Er y ffaith bod gan 1 mewn 3 o ddynion dros 65 oed anymataliaeth troethol, mae yna ddiffyg enbyd o finiau glanweithiol mewn toiledau dynion ac mae yna dabŵ parlysol yn ymwneud a’r mater. Mae bron i bob dyn rydym ni wedi siarad â nhw yn teimlo pryder ynglŷn â gadael y tŷ, ac mae nifer hyd yn oed wedi dweud eu bod wedi gorfod cario eu padiau budr mewn bag.
“Rydw i wrth fy modd bod Cyngor Wrecsam yn cefnogi ein hymgyrch Boys need Bins a’u bod yn cyflwyno biniau glanweithiol yn eu toiledau dynion. Mewn mannau eraill yng Nghymru, mae Trafnidiaeth Cymru a Chynghorau Torfaen, Cas-gwent a Sir Gâr wedi cyflwyno biniau hefyd. Rydym ni’n ceisio newid y gyfraith er mwyn i bob dyn gael mynediad at fin iawn, ac yn y cyfamser mae hi’n gyffrous bod cynnydd gwirioneddol yn digwydd yma yng Nghymru ac ar draws y DU.
“Fel elusen rydym ni’n gweithio i gyrraedd cynifer o ddynion â phosibl yng Nghymru, gan fod gormod yn derbyn diagnosis o gancr y prostad sydd wedi ymledu. Yn aml iawn does yna ddim symptomau ar gyfer cancr y prostad, felly’r cynharaf y byddwch chi’n ei ddarganfod, yr haws ydi o i’w drin. Gallwch wirio eich risg mewn 30 eiliad gan ddefnyddio ein hadnodd ‘Risk Checker’ ar wefan Prostate Cancer UK.”
Annog sefydliadau eraill i osod biniau glanweithiol
I ddysgu mwy ynghylch sut gall eich sefydliad chi helpu’r sefyllfa, ewch i Prostate Cancer UK
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Rydym yn chwilio am gefnogwyr