Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Microfentrau cymunedol yn helpu i gynnal dathliadau pen-blwydd mawr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Microfentrau cymunedol yn helpu i gynnal dathliadau pen-blwydd mawr
Y cyngor

Microfentrau cymunedol yn helpu i gynnal dathliadau pen-blwydd mawr

Diweddarwyd diwethaf: Medi 8, 2022 12:13 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
/cinny
RHANNU

Mae Catalyddion Cymunedol Wrecsam yn darparu cymorth gwerthfawr i’r rheiny sy’n derbyn taliadau uniongyrchol ac angen gofal gartref.

Mae’r prosiect wedi helpu dros 50 o ficrofentrau cymunedol i sefydlu ac maen nhw’n dechrau gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

Un enghraifft yw Colin, a fu’n gofalu am ei wraig Sandra am ddwy flynedd ar ei ben ei hun, gan gael trafferth derbyn unrhyw gymorth i ofalu am Sandra a oedd yn dioddef o glefyd Parkinson.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Meddai Colin, “Doeddwn i ddim yn gallu gwneud y pethau pwysig yn fy mywyd ac roeddwn i wir yn cael trafferth gofalu am Sandra.”

Cysylltodd Colin â Gwasanaethau Cymdeithasol Wrecsam a roddodd wybod iddo am yr holl ficrofentrau cymunedol newydd sy’n cynnig cymorth a gofal – unigolion a grwpiau bach o bobl sydd wedi sefydlu eu menter eu hunain i helpu eraill yn Wrecsam.

Dywedodd Colin, “Roeddwn i’n gallu edrych ar y cyfeirlyfr a chysylltu â microfentrau cymunedol yn Wrecsam i holi a ydyn nhw’n gallu dod i helpu. A dyna sut y bu i mi ddod ar draws Ilona o Real Care. Roedd Cyngor Wrecsam yn help mawr i sicrhau fy mod i’n derbyn taliadau uniongyrchol i dalu am y cymorth gan Ilona.”

Mae Ilona erbyn hyn yn ymweld â Colin a Sandra bron bob dydd i helpu gyda choginio, glanhau ac i ddarparu unrhyw gymorth arall i wneud diwrnod Colin a Sandra yn haws.

Fel rhan o’i chymorth i Colin trefnodd Ilona bod Colin a’i ferch yn mynd allan am fwyd ar ei ben-blwydd. Ar ddiwrnod ei ben-blwydd cafodd Colin syrpréis o weld Ilona yn cyrraedd gyda balŵns, blodau a Prosecco. Aethon nhw yn y car wedyn i’r Corn Mill gan wrando ar hoff albwm Colin gan Dire Straits.

“Mae’r microfentrau cymunedol hyn yn syniad gwych”

Meddai Colin, “Roedd yn bryd hyfryd o fwyd ac roedd Ilona hyd yn oed wedi pobi cacen i mi; doeddwn i ddim wedi dathlu fy mhen-blwydd ers dwy flynedd oherwydd fy rôl ofalu ac roeddwn i ar ben fy nigon.”

Community Micro-Enterprises

“Mae’r microfentrau cymunedol yn syniad gwych. “Rydw i’n teimlo’n fwy sicr rŵan bod gen i gefnogaeth Ilona. Mae’n rhaid i mi gyfaddef, doeddwn i ddim yn disgwyl i’r gefnogaeth fod cystal. Roedd yn llenwi’r bwlch, a hynny ar ôl chwilio am asiantaeth am 12 mis a methu â derbyn cymorth.”

Cafodd Ilona gymorth gan y Catalyddion Cymunedol i sefydlu cynnig gofal a chymorth fel microfenter cymunedol.

Meddai Tom Hughes o’r Catalyddion Cymunedol, “Mae Catalyddion Cymunedol yn darparu cymorth am ddim i alluogi pobl frwdfrydig a gofalgar fel Ilona i weithio’n hunangyflogedig neu i redeg eu microfenter cymunedol eu hunain sy’n cynnig gofal a chymorth i gymdogion. Dim ond chwe wythnos y cymerodd hi i Ilona sefydlu ei menter “Real Care”.

“Rydym ni’n gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i helpu pobl leol i ddefnyddio eu talentau i helpu pobl leol eraill.”

Meddai’r Cyng. John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal cymdeithasol i Oedolion, “Mae’r hyn y mae’r Catalyddion Cymunedol wedi’i wneud mewn cyfnod byr iawn o amser yn hollol wych. Mae pobl rŵan yn gallu defnyddio eu taliadau uniongyrchol i dderbyn y gofal sydd arnyn nhw ei angen i fyw eu bywydau bob dydd. Mae Ilona yn enghraifft wych o sut mae’r cynllun yn gallu bod o fudd, a hoffaf annog eraill i gysylltu i weld sut mae taliadau uniongyrchol yn gallu helpu pobl sydd angen gofal.”

Meddai Ilona, sy’n rhedeg Real Care, “Dydi rhedeg fy menter fy hun ddim yn teimlo fel gwaith, mae’n teimlo fel treulio amser gyda ffrindiau a pherthnasau. Dw i’n teimlo fy mod i’n gallu personoli’r gofal yn ôl anghenion unigolion, ac mae gen i well cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.”

Cyngor Ilona i unrhyw un sy’n ystyried sefydlu microfenter cymunedol i ddarparu gofal yw – “Mae’r wobr yn erbyn y risgiau yn anhygoel. Dydi o ddim yn teimlo fel mynd i’r gwaith, mae’n gallu bod yn heriol ond rydych chi’n cael ei gwerthfawrogi. Dw i’n bendant yn argymell cysylltu â’r Catalyddion Cymunedol i dderbyn cymorth os ydych chi’n ystyried lansio eich menter eich hun i gefnogi pobl leol.”

Os ydych chi’n adnabod unrhyw un a all gael budd o gymorth gan ficrofenter cymunedol, mae’r cyfeirlyfr o fentrau sydd ar gael yn Wrecsam i’w weld yma.

Neu os ydych chi’n ystyried ymuno â’r hanner cant a mwy o bobl yn Wrecsam sydd wedi derbyn cymorth am ddim i sefydlu microfenter cymunedol, cysylltwch â tom.hughes@communitycatalysts.co.uk

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol 999 Emergency Services Day Rydym ni’n chwifio’r faner ar gyfer Diwrnod Gwasanaethau Brys 999
Erthygl nesaf Queen Elizabeth Neges gan Maer Wrexham, y Cynghorydd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English