Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Adfywio treftadaeth barhaus yn cefnogi adeiladau allweddol yn Ardal Gadwraeth Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Adfywio treftadaeth barhaus yn cefnogi adeiladau allweddol yn Ardal Gadwraeth Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Adfywio treftadaeth barhaus yn cefnogi adeiladau allweddol yn Ardal Gadwraeth Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 17, 2025 2:50 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Adfywio treftadaeth barhaus yn cefnogi adeiladau allweddol yn Ardal Gadwraeth Wrecsam
RHANNU

Mae gwaith adnewyddu ar 58 a 58a Stryt yr Hôb wedi’i gwblhau ac mae’n gyflawniad sylweddol ar gyfer rhaglen Cynllun Treftadaeth Treflun Wrecsam (CTT) sy’n cefnogi gwarchod Ardal Gadwraeth canol ein dinas.

Mae’r cyllid grant a sicrhawyd o dan gynllun CTT Wrecsam wedi gwella ymddangosiad, cymeriad a swyddogaeth 58 a 58a Stryt yr Hôb trwy waith trwsio priodol i ffabrig hanesyddol yr adeiladau, adfer nodweddion pensaernïol coll a thrwy ddod â lloriau uchaf segur yn ôl i ddefnydd hyfyw.

Mae’r adeilad wedi cadw’r uned fasnachol ar y llawr gwaelod, gyda’r lloriau uchaf wedi’u troi’n unedau preswyl, gan ddarparu mannau byw cynaliadwy o ansawdd da yng Nghanol Dinas Wrecsam.  Mae perchennog yr adeilad wedi arwyddo’r fflatiau 3 x 2 draw i Asiantaeth Gosodiadau Preifat CBSW sy’n cefnogi anghenion tai yn y Fwrdeistref Sirol.

 Mae’r adnewyddu ar yr adeilad a ariannwyd drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a’r Cynllun Treftadaeth Treflun wedi gwella cymeriad yr ardal, gan greu cyfleoedd cyflogaeth, yn ogystal â chynnig cyfle i ddefnyddio adeilad amlwg yng nghanol y ddinas mewn modd gwell.

Mae’r gwaith adfywio wedi’i wneud mewn ffordd sy’n ategu ac yn gwella’r dreftadaeth leol a’r adeiladau traddodiadol yng nghanol y ddinas.  Yn hanesyddol, mae Wrecsam wedi colli llawer o’i ffryntiau siopau traddodiadol lle defnyddiwyd deunyddiau a dyluniadau amhriodol nad oes ganddynt fawr ddim perthynas ag arddull draddodiadol yr eiddo presennol yn yr ardal gadwraeth. 

Mae hon yn broblem barhaus yng nghanol y ddinas, ond gyda chymorth grant o dan y rhaglen CTT, bydd 58 a 58a Stryt yr Hôb yn gallu adfer ac ailsefydlu nodweddion ac arddulliau treftadaeth bensaernïol priodol, gan wella ymddangosiad a chymeriad cyffredinol yr Ardal Gadwraeth.

Dwedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol dros yr Economi:  “Cefais fy nhywys o gwmpas yr adeilad sydd newydd ei adnewyddu’n ddiweddar. “Mae’n enghraifft wych o sut rydym yn adfywio canol y ddinas i’w gwneud yn gyrchfan fwy diddorol, cyffrous a bywiog i drigolion ac ymwelwyr â Wrecsam, yn ogystal ag ymrwymo i adferiad parhaus ein hardal gadwraeth.”

Perchennog yr eiddo Julie Rowlands:  “Roedd yr help a’r cyngor a gefais gan swyddogion Cyngor Wrecsam cyn ac yn ystod y gwaith yn hynod werthfawr wrth weld y prosiect yn dwyn ffrwyth. Rwy’n falch iawn o weld lefel mor uchel o orffeniad i’r gwaith ac yn hapus bod yr adeilad hwn yng nghanol y ddinas, a oedd wedi cael ei danddefnyddio ers sawl blwyddyn, wedi cael ei adfer i’w hen ogoniant ac erbyn hyn yn darparu gofod busnes yn ogystal â gofod byw yng nghanol y ddinas.

“Allwn i wir ddim fod wedi ei wneud heb y cymorth cyllid grant gan Gyngor Wrecsam a’r Loteri Genedlaethol , a ‘dwi mor falch ein bod wedi achub yr adeilad. Da gallu adrodd bod yr holl denantiaid, preswyl a masnachol, yn gwneud yn dda ac yn mwynhau’r adeilad. “Soniodd adeiladwyr hefyd pan fuon nhw’n gweithio ar yr adeilad, bod  siopwyr/y cyhoedd wedi dweud pa mor hyfryd yw’r adeilad nawr a pha mor hyfryd yr olwg yw Wrecsam. Hoffem ddiolch i Chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am y cyllid a’r gefnogaeth.”

Adfywio treftadaeth barhaus yn cefnogi adeiladau allweddol yn Ardal Gadwraeth Wrecsam
Rhannu
Erthygl flaenorol Gwersyllt Community Resource Centre Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt – cau am bythefnos
Erthygl nesaf CYFLWYNO CORON A CHADAIR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM CYFLWYNO CORON A CHADAIR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English