Mae pêl-droed yn uchel ar agenda Wrecsam wrth i fuddsoddiad o £400,000 gael ei gadarnhau i ddarparu dau gae pêl-droed 3G arall.
Bydd y ddau gae yn cael eu gosod yn Ysgol y Grango ac Ysgol Rhosnesni.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Nawr, fe fyddwn ni’n ceisio sicrhau contractwr i wneud y gwaith ac yn croesi ein bysedd y bydd y gwaith yn cael dechrau yn yr hydref.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Mae’r cyllid wedi cael ei gytuno gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) a byddwn ninnau’n darparu’r arian cyfatebol.
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Cadeirydd y Grŵp Llywio, “Mae pêl-droed yn parhau i gyrraedd tudalennau blaen y papurau newydd yn Wrecsam, ac mae’r diddordeb mewn cymryd rhan yn y gêm yn cynyddu. Fe fydd y caeau yn ased anhygoel i’r ddwy ysgol, ond nid dyna fydd ei diwedd hi. Fe fyddwn ni’n parhau i weithio gyda’r FAW i ddarparu cyfleusterau newydd a mwy diweddar yn ein holl ysgolion uwchradd, er mwyn sicrhau y gall pob cymuned gymryd rhan yn y gêm hon.
“Fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r aelodau am eu cefnogaeth i’r prosiect hwn, ac i’r FAW am eu hymrwymiad a’u cefnogaeth i bobl ifanc Wrecsam.”
Meddai’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg, “Mae hyn yn newyddion ardderchog i’r ysgolion ac i chwaraeon tîm yn gyffredinol. Does yna ddim amheuaeth y bydd pobl ifanc yn elwa drwy gael cyfle i ymarfer corff, magu sgiliau cymdeithasol a hunanhyder a chael hwyl a mwynhau eu hunain. Rydw i’n edrych ymlaen at weld y caeau’n cael eu cwblhau a mynd draw i’w gweld nhw’n cael eu defnyddio.”
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF