LLEOLIAD NEWYDD
O 7 Awst 2023, bydd ein cigyddion a’r masnachwyr cyffredinol yn Unedau 5, 7 a 9 Sgwâr y Frenhines, Wrecsam wrth i’n marchnadoedd hanesyddol gael eu hailwampio.*
Yr oriau agor yw 9-4.30pm ar ddydd Llun, Mawrth, Iau, Gwener a Sadwrn
9-1pm ar ddydd Mercher (ar gau ar ddydd Sul).
Yno, gallwch ddod o hyd i fferins, dillad, dillad gwaith, gwisg ffansi, melysion, DVD’s, Blu Ray, bwyd ac offer anifeiliaid anwes, blodau artiffisial, cynnyrch iechyd, offer swyddfa …a llawer mwy.
*Bydd Caffi Tracey a Paul the Butchers yn aros yn y farchnad cigyddion.
Pam bod y marchnadoedd yn mudo …
Mae angen symud fel y gallwn hwyluso’r gwaith ailwampio angenrheidiol yn ein marchnadoedd hanesyddol.
Agorwyd y Farchnad Cigydd yn 1848 a’r Farchnad Gyffredinol yn 1879; mae’r ddau angen gwaith cynnal a chadw, atgyweiriadau a moderneiddio hanfodol.
Mae ein marchnadoedd yn rhan o wead Wrecsam ac yn cyfrannu at gymeriad a threftadaeth Canol Dinas Wrecsam. Mae’r gwaith ailwampio yn rhan o gynlluniau Cynllun Treftadaeth Treflun Wrecsam i wella a datblygu Ardal Gadwraeth Canol Dinas Wrecsam.
Adnewyddu a chynllunio ar gyfer y dyfodol
Ni fydd moderneiddio’r adeiladau rhestredig hyn yn niweidiol i’w statws rhestredig, ond yn darparu buddion sylweddol i’n masnachwyr ac ymwelwyr. Bydd adnewyddu a chynllunio ar gyfer dyfodol ein marchnadoedd hanesyddol yn denu cynulleidfaoedd newydd a chynyddu nifer yr ymwelwyr a dod yn gyrchfan Canol Dinas yn eu rhinwedd eu hunain.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio: “Rydym yn gobeithio y bydd ein masnachwyr yn llwyddiannus yn eu lleoliad newydd dros dro yn Sgwâr y Frenhines. Rydym yn disgwyl i’r lleoliad yng Nghanol y Ddinas ddenu masnach newydd, yn ogystal â bod yn lleoliad cyfleus i wasanaethu eu cwsmeriaid selog. Cefnogwch fusnesau lleol yn Wrecsam drwy ymweld â’n marchnadoedd heddiw.”
Ariennir y gwaith o ailwampio marchnadoedd dan do Wrecsam drwy Gynllun Treftadaeth Treflun Wrecsam a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn ogystal â chyllid gan Lywodraeth Cymru drwy’r Gronfa Trawsnewid Trefi a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.