Mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi cyhoeddi bod y digwyddiad yn Kronospan bellach wedi symud ymlaen i’r cam adfer sy’n golygu eu bod wedi gallu gadael y safle. Fodd bynnag, fe fydd y gwasanaeth yn parhau i fonitro’r sefyllfa. Mae staff Kronospan nawr wrthi’n tampio’r pentwr o goed a effeithiwyd.
Erbyn hyn, nid oes llawer iawn o fwg yn codi o’r safle ond mae arogl i’w glywed o ganlyniad i’r deunydd sydd wedi bod yn llosgi, sydd efallai am beri pryder i breswylwyr yn ogystal â bod yn amhleserus.
“Wrth i ni symud ymlaen at y cam adfer, cynghorir trigolion i awyru eu tai i gael gwared ar unrhyw arogl drwy agor y ffenestri. Gall arogleuon sy’n gysylltiedig â thanau achosi annifyrrwch, straen a gorbryder, cyfog, cur pen neu bendro. Mae’r rhain yn adweithiau cyffredin i arogleuon, yn hytrach na’r sylweddau sy’n achosi’r arogl. Fe allwn ganfod arogleuon ar lefelau sydd yn llawer is na’r lefelau sy’n gallu achosi niwed i iechyd.”
Bydd asiantaethau yn parhau i gysylltu â Kronospan yn ystod y dyddiau nesaf.
Mae’r uned monitro ansawdd aer a ddefnyddir gan Adnoddau Naturiol Cymru bellach wedi wefyll i lawr. Mae’r data a gesglir un ystod y monitro yn cael ei ddadansoddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a bydd y canlyniadau ar gael maes o law..
Hoffai’r grŵp aml-asiantaeth sy’n cydlynu’r ymateb i’r asiantaeth hon, gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r holl asiantaethau oedd yn rhan o’r digwyddiad hwn am eu hymateb prydlon a phroffesiynol. Hoffem hefyd ddiolch i’r preswylwyr am eu cydweithrediad ac i bwysleisio ein bod yn deall eu pryderon parhaol ynglŷn â hyn a digwyddiadau blaenorol ac y byddwn yn ateb ymholiadau unigol nawr bod y digwyddiad gwreiddiol wedi dod i ben.