Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Arddangosfa “hynod boblogaidd” Tŷ Pawb wedi hymestyn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Arddangosfa “hynod boblogaidd” Tŷ Pawb wedi hymestyn
Pobl a lle

Arddangosfa “hynod boblogaidd” Tŷ Pawb wedi hymestyn

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 17, 2020 2:51 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Arddangosfa "hynod boblogaidd" Tŷ Pawb wedi hymestyn
RHANNU

Os nad ydych wedi cael cyfle i weld arddangosfa ragorol Tŷ Pawb, Print Rhyngwladol, yna mae yna newyddion da!

Cynnwys
  • “Gallai hon fod yr arddangosfa brint fwyaf yng Nghymru”
  • Stiwdio print byw yn yr oriel

Bydd yr arddangosfa nawr yn aros ar agor tan ddydd Sadwrn, Chwefror 8, felly mae gennych chi wythnos ychwanegol i ddod i fwynhau gwledd o waith celf gwych o bob cwr o’r byd.

Mae Print Rhyngwladol yn cynnwys gwaith gan dros 85 o artistiaid o 10 gwlad dros 3 chyfandir.

Mae dros 3,500 o ymwelwyr wedi gweld yr arddangosfa ers y diwrnod agoriadol yn ôl ym mis Tachwedd 2019.

Cyflwynwyd gwobrau mewn pum categori ar y noson agoriadol. Gweler yr erthygl hon i weld y rhestr lawn o enillwyr.

Mae un wobr i’w dyfarnu o hyd – Gwobr y Bobl. Bydd hyn yn cael ei benderfynu trwy bleidlais gyhoeddus sy’n digwydd trwy gydol yr arddangosfa, felly peidiwch ag anghofio dewis eich ffefryn pan ymwelwch chi!

Arddangosfa "hynod boblogaidd" Tŷ Pawb wedi hymestyn
Y noson agoriadol

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB.

Arddangosfa "hynod boblogaidd" Tŷ Pawb wedi hymestyn
Arddangosfa "hynod boblogaidd" Tŷ Pawb wedi hymestyn

“Gallai hon fod yr arddangosfa brint fwyaf yng Nghymru”

Dywedodd Curadur yr Arddangosfa, Karen Whittingham o Tŷ Pawb: “Rydyn ni wedi cael ein synnu’n llwyr gan yr ymateb rydyn ni wedi’i gael i’r arddangosfa hon ers i ni anfon yr alwad agored am gynigion ym mis Mehefin. Cyflwynwyd dros 400 o ddelweddau o bob cwr o’r byd. ac rydym yn credu y gallai hon fod yr arddangosfa brint fwyaf yng Nghymru mewn gwirionedd!

“Roedd y noson agoriadol yn achlysur hyfryd, diolch enfawr i Adam Netting, ein technegydd oriel, am ei holl waith yn rhoi’r arddangosfa at ei gilydd, i’n holl noddwyr arddangosfeydd a gwobrau ac wrth gwrs i’r holl artistiaid ac i’n panel beirniadu.”

Stiwdio print byw yn yr oriel

Ochr yn ochr â Print Rhyngwladol, mae’r artist Pam Newall wedi cydweithio â Tŷ Pawb ac Oswestry’s Designs in Mind i ddatblygu stiwdio argraffu byw yn yr oriel. O dan y teitl Gwneud Print bydd y stiwdio yn creu dyluniadau print a fydd yn ymddangos ar gynhyrchion a fydd yn cael eu gwerthu trwy Designs in Mind – JOLT a Siop//Shop Tŷ Pawb.

Fel rhan o Gwneud Print, mae Pam Newall hefyd wedi curadu archif o brintiau a thaflenni sy’n cynrychioli cyfnod penodol yn y 1970au. Mae’r archif wedi’i fenthyg yn hael o Stiwdio Argraffu Bradford gan Dr Robert Galeta, Darlithydd, a Pam Brooks, Darlithydd mewn Astudiaethau Beirniadol a Chyd-destunol, yn Ysgol Gelf Bradford.

  • Mae Print Rhyngwladol a Gwneud Print yn rhedeg tan Chwefror 8 2020.
  • Diolch enfawr i noddwyr yr arddangosfa: John Purcell Paper, Screenstretch Ltd, Intaglio Printmaker, Pressing Matters magazine a Canolfan Argraffu Ranbarthol / Regional Print Centre

Dilynwch Tŷ Pawb ar:
Facebook
Twitter
Instagram

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

Rhannu
Erthygl flaenorol P Dyma beth o’r plastig y daethom o hyd iddo yn eich gwastraff cyffredinol
Erthygl nesaf Chirk DATGANIAD AML ASIANTAETH – Digwyddiad yn Y Waun – Y Wybodaeth Ddiweddaraf 17.01.2020

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English