Question marks

Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn ymgynghori ar fersiwn ddrafft o’n strategaeth ymgysylltu ddiwygiedig. Rydym wedi bod yn gofyn eich barn ynglŷn â sut i gynnwys pobl ac roi gwybod i ni faint rydych chi’n teimlo y gallwch chi gymryd rhan yn y penderfyniadau rydym yn eu gwneud fel Cyngor.

Fe hoffem roi cyfle i gymaint o bobl â phosibl i roi gwybod i ni, felly rydym ni’n rhoi ychydig mwy o amser i chi ddweud eich dweud.

Mae fersiwn ddrafft Strategaeth Ymgysylltu Cyngor Wrecsam ar-lein rŵan felly gadewch i ni wybod beth rydych chi’n ei feddwl ohono.

Mae gennych tan 4 Hydref felly cliciwch yma i roi gwybod i ni beth rydych chi’n ei feddwl!
Os na allwch chi lenwi’r arolwg ar-lein, mae copïau papur yn Gymraeg a Saesneg ac mewn fformatau eraill ar gael ar gais.

Gallwch ein e-bostio telluswhatyouthink@wrexham.gov.uk

Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.

TALU NAWR