Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Arolwg Estyn Cadarnhaol ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Arolwg Estyn Cadarnhaol ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned
Busnes ac addysgY cyngor

Arolwg Estyn Cadarnhaol ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Diweddarwyd diwethaf: Medi 20, 2022 12:33 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Adult Learning
RHANNU

Mae Estyn wedi cyhoeddi adroddiad ar Ddarpariaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned ar gyfer Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Wrecsam a Sir y Fflint.

Cynhaliwyd yr Arolwg ym mis Mai 2022.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Nodwyd y canfyddiadau allweddol fel:

  • Mae’r Bartneriaeth, a sefydlwyd ym mis Ebrill 2021, yn cael ei harwain yn dda ac mae cefnogaeth gref gan y ddau Awdurdod Lleol.
  • Mae’r Arweinwyr wedi gosod dyheadau uchelgeisiol ar gyfer y bartneriaeth, ei harweinyddion, y darparwyr a’r dysgwyr.
  • Mae gweledigaeth y bartneriaeth yn uchelgeisiol, ac yn adlewyrchu polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu yn y gymuned.
  • Mae cydbwysedd da ac ystod ddefnyddiol o gyrsiau i oedolion.
  • Mae’r dysgwyr yn gwneud cynnydd da yn eu sesiynau llythrennedd, rhifedd, digidol ac ESOL.
  • Mae sawl dysgwr yn magu hyder a’u parodrwydd i symud ymlaen i ddysgu ffurfiol.
  • Mae’r tiwtoriaid yn sefydlu perthnasoedd da gyda’u dysgwyr.
  • Mae gan y Bartneriaeth ddealltwriaeth realistig o’i chryfderau a’r meysydd i’w gwella.
  • Dymunai Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd Ddwyrain Cymru ddiolch i’w darparwyr arweiniol a phartneriaid allweddol yn cynnwys Coleg Cambria ac Addysg Oedolion Cymru.

Mae pedwar argymhelliad o’r arolwg mewn perthynas â chynyddu cyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg, olrhain cynnydd hirdymor y dysgwyr, datblygu hunanwerthuso a gwella gwaith hyrwyddo darpariaeth y bartneriaeth.

Dywedodd y Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg “Rwy’n falch iawn bod Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Wrecsam a Sir y Fflint wedi derbyn adroddiad cadarnhaol iawn gan Estyn yn dilyn yr arolwg diweddar.

“Fel aelod o’r Bartneriaeth, rwyf wedi gweld gwahaniaeth y gwaith i’r dysgwyr yn Wrecsam.   Mae hyn yn deillio o gydweithrediad agos yr holl bartneriaid sydd wedi ymrwymo i ddatblygu cyfleoedd helaeth ar gyfer dysgwyr Wrecsam a Sir y Fflint.   Mae’r rhain yn eu tro yn helpu dysgwyr i nodi a datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth a fydd yn rhoi hyder iddynt symud ymlaen i ddysgu pellach, swyddi neu hyfforddiant.

“Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r arolwg, gyda’r diolch mwyaf i’r dysgwyr eu hunain.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Ian Roberts, “Rwy’n croesawu’r gydnabyddiaeth ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned ac rwy’n falch iawn bod yr arolygwyr wedi nodi’r cynnydd a wnaed gan y gwasanaeth gwerthfawr hwn yn Sir y Fflint.  Mae’n  cydnabod gwaith caled pawb sy’n ymwneud â’r bartneriaeth.

“Mae’n adroddiad gwych a dylai pawb fod yn falch o’r gwaith caled a wnaed a’r ymroddiad sydd wedi arwain at y cyflawniad hwn.   Mae’r adroddiad wedi nodi’r ystod o gyrsiau sydd ar gael a’r cynnydd a wneir gan y dysgwyr.

“Rydym yn nodi’r argymhellion ar gyfer gwella ond hefyd yn nodi bod yr adroddiad yn cydnabod bod y Bartneriaeth yn cael ei harwain yn dda, yn uchelgeisiol ac yn derbyn cefnogaeth gref gan yr awdurdodau lleol.”

Edrychwch ar eu tudalen Facebook i weld yr hyn sydd ar gael  https://www.facebook.com/northeastwalesacl.

Mae’r adroddiad llawn ar gael yma.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Fre Nodyn atgoffa: Maes parcio’r Byd Dŵr a Neuadd y Dref ar gau oherwydd y cynhelir digwyddiadau mawr.
Erthygl nesaf Question marks Mwy o amser i ymuno â’r sgwrs ynglŷn â chymryd rhan – mae gennych chi tan 4 Hydref

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 29, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Medi 29, 2026
Ysgol I D Hooson
Busnes ac addysg

Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol

Medi 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English