Mae tenantiaid y Cyngor wedi croesawu gwaith i wella eu cartrefi.
Cafodd dai ym Mhen y Bont yn Nhrefor ystafelloedd ymolchi newydd wedi’u haddasu fel rhan o brosiect moderneiddio tai uchelgeisiol.
Mae Pen y Bont yn cynnwys 15 byngalo sy’n rhan o gynllun tai gwarchod Cyngor Wrecsam. Mae modd i denantiaid fyw’n annibynnol ond elwa hefyd o wasanaeth warden a gwasanaeth larwm 24 awr.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Diwallu anghenion tenantiaid
Mae ystafelloedd ymolchi wedi’u haddasu yn cael eu hadeiladu gyda nodweddion arbennig i ddiwallu anghenion y tenantiaid sy’n byw yma. Mae hyn yn cynnwys cawodydd gwastad â’r llawr a chanllawiau ychwanegol.
Cafodd yr ystafelloedd ymolchi ym Mhen y Bont eu gosod gan Novus Property Solutions, contractwr sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r Cyngor.
Cafodd y tai welliannau blaenorol eraill fel rhan o’r prosiect moderneiddio. Mae’r rhain yn cynnwys ceginau newydd, systemau gwres canolog newydd, ail-wifrio trydanol a thoeau newydd.
Mae’r gwaith wedi’i wneud i sicrhau bod y Cyngor yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru.
Mae fy nhŷ yn well nag a fu erioed
Mae Mr Charlie Evans wedi bod yn byw ym Mhen y Bont ers 15 mlynedd. Dywedodd: “Dw i’n fodlon iawn gyda’r ystafell ymolchi newydd. Mae’n lân, yn fodern ac yn hawdd i’w defnyddio, ac wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’m cartref. Mae’r gwaith o osod ystafell ymolchi newydd yn eitha’ peth, ond roedd y contractwyr a staff y Cyngor wedi gwneud yn siŵr eu bod yn gofalu amdanon ni. Roedd y staff yn arbennig o dda drwy gydol y gwaith. Roeddent yn gyfeillgar ac yn barod eu cymwynas.
Mae’r tŷ wedi cael ei weddnewid ers i mi symud i mewn. Rydw i wedi cael cegin, system gwres canolog a tho newydd. Mae’n well rŵan nag erioed.”
Dywedodd Aelod Lleol Llangollen Wledig, y Cynghorydd Rondo Roberts: “Rydw i’n falch iawn bod cartrefi ein tenantiaid yn cael eu moderneiddio ac mae’n dda clywed bod y gwaith yn cael ei wneud i ddiwallu anghenion y sawl sy’n byw mewn tai gwarchod.
Mae’n bwysig bod pob un o’n tai cymdeithasol yn cael eu gwella i safon uchel a hoffwn ddiolch i’r Cyngor a Novus am wneud y gwaith i safon mor dda.”
Blwyddyn record ar gyfer gwaith gwella tai
Mae tai’r Cyngor ar draws y fwrdeistref sirol yn derbyn gwaith gwella fel rhan o’r prosiect i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.
Mae dros £56.4 miliwn yn cael ei wario ar y gwaith yn 2017/18. Mae hyn yn cynnwys grant ‘Lwfans Atgyweiriadau Mawr’ o £7.5 miliwn sy’n cael ei ddyfarnu gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol er mwyn helpu i gyrraedd y safon newydd.
Mae’r gwaith yn cynnwys ceginau newydd, ystafelloedd ymolchi newydd, systemau gwres canolog, ail-doi a gwaith i wella’r llwybrau a’r ffensys tu allan hefyd.
Meddai’r Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Rydym wedi cymryd camau mawr gyda’n prosiect moderneiddio tai dros y blynyddoedd diwethaf, gan fuddsoddi’r symiau mwyaf erioed o bres a gwneud gwaith gwella enfawr ar filoedd o dai.
Rydym yn rheoli dros 11,200 o dai Cyngor, felly mae prosiect ar y raddfa hon yn gallu cyflwyno sawl her. Er hyn, rydw i’n falch iawn o weld bod y rhan fwyaf o’r gwaith nawr wedi cael ei gwblhau a bod ein tenantiaid yn gallu byw mewn cartrefi modern, deniadol ac yn barod at y dyfodol.”
Cewch ragor o wybodaeth am Safon Ansawdd Tai Cymru ar ein gwefan.
Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI