Yng nghyfarfod diwethaf Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam, cytunwyd ar gymorth ariannol ychwanegol i gefnogi gofalwyr maeth yn Wrecsam.
Bydd pob Gofalwr Awdurdod Lleol Wrecsam cymeradwy bellach yn cael gostyngiad treth gyngor o 100% yn hytrach na’r 75% y cytunwyd arno’n flaenorol (daeth hyn i rym ar 8 Gorffennaf, 2025).
Pwy sy’n gymwys i gael y cymorth ariannol hwn?
Byddai’r cynnydd yng ngostyngiad y dreth gyngor ar gael i’r gofalwyr isod a gymeradwywyd gan Gyngor Wrecsam:
- gofalwyr maeth cysylltiedig (perthnasau)
- gofalwyr maeth awdurdod lleol
- gofalwyr maeth therapiwtig yr awdurdod lleol
- gofalwyr maeth “Pan Fydda i’n Barod”
- gofalwyr gwarchodaeth arbennig
- lletywyr llety â chymorth
- gofalwyr maeth a gymeradwywyd yn barod o asiantaethau maethu annibynnol sy’n trosglwyddo i Wrecsam i fod yn ofalwyr maeth yr awdurdod lleol
Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd: “Mae hwn yn newid enfawr a chadarnhaol i’r gwasanaeth hwn ac yn dangos yr hyn rydyn ni’n fodlon ei wneud i recriwtio a chadw gofalwyr maeth.
“Y nod yw cynyddu nifer y gofalwyr maeth mewnol. Bydd cael mwy o ofalwyr maeth mewnol hefyd yn golygu paru gwell ac, yn ei dro, mwy o sefydlogrwydd i’n plant. Pwrpas y newid hwn, ar wahân i wella’r broses o recriwtio gofalwyr maeth, yw annog gofalwyr maeth presennol sydd wedi cofrestru gydag Asiantaethau Maethu Annibynnol ar hyn o bryd i symud i dîm Maethu CBSW.
“Y gobaith yw y bydd hyn hefyd yn arwain at arbedion ariannol gan y bydd yn lleihau ein dibyniaeth ar leoliadau annibynnol drud, sy’n aml y tu allan i’r sir. Yn ogystal, rydym wedi ychwanegu lletywyr llety â chymorth nad oeddent yn gymwys ar gyfer y gostyngiad yn flaenorol.”
O ganlyniad, bydd ein gofalwyr maeth mewnol nawr yn derbyn gostyngiad o 100% ar eu biliau treth gyngor. Yn ogystal â’r gostyngiad yn y dreth gyngor, bydd Gwasanaeth Maethu Wrecsam yn parhau i ddarparu cymhellion ariannol allweddol fel cyflogau uwch i ofalwyr maeth medrus a phrofiadol a’r gofalwyr llawn amser hynny sy’n gofalu am blant sy’n gadael gofal preswyl neu sydd mewn perygl o fynd i mewn i ofal preswyl.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn ofalwr maeth, siaradwch â Gwasanaeth Maethu Wrecsam ar 01978 295316 neu anfonwch e-bost at fostering@wrexham.gov.uk.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.