Rydym yn cefnogi Heddlu Gogledd Cymru wrth iddynt ofyn i bobl ddathlu Calan Gaeaf adref eleni – mae hyn hyd yn oed yn bwysicach gan ein bod yn profi cyfnod atal er mwyn atal lledaeniad Coronafeirws.
Bydd yn siomedig iawn i blant bach ond bydd yn dal modd iddynt wisgo i fyny, addurno’r tŷ a’r ardd ac mae nifer o bethau y gall rhieni eu gwneud er mwyn ei wneud yn achlysur cofiadwy iddynt.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Mae cerfio pwmpenni, creu crefftau, a chreu llwybr brawychus o amgylch eich tŷ neu eich gardd bob amser yn ffyrdd o ddathlu Calan Gaeaf adref gyda phlant ifanc.
Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi llunio nifer o weithgareddau llawn hwyl i’w lawrlwytho i’r rhai bach eu gwneud gartref – fel taflenni lliwio a chwilair. Gall pobl anfon ffotograffau atom o’u creadigaethau drwy gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #CalanGaeafHGC ac efallai y bydd cyfleoedd i ennill gwobr.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’n gyfnod anodd a phryderus iawn unwaith eto ond mae angen y cyfnod atal er mwyn gwarchod iechyd a lles pawb yn Wrecsam ac ar draws Cymru. Helpwch gadw Calan Gaeaf yn brofiad diogel i’w fwynhau ar gyfer pobl ifanc ac mae pob un ohonom yn gobeithio y bydd gwneud hyn yn helpu cadw Wrecsam yn ddiogel.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG