Efallai eich bod chi wedi clywed am ein harddangosfa bresennol, Gwlad y Chwedlau, sy’n digwydd yn Amgueddfa Wrecsam tan ddydd Sadwrn, 3 Tachwedd.
Fel rhan o’r arddangosfa, bydd adroddwr yn yr amgueddfa yn adrodd straeon rhai o chwedlau hynaf Cymru yn null traddodiadol yr hen feirdd Cymraeg.
Bydd yr adroddwraig straeon lleol, Fiona Collins, yn arwain y sesiynau adrodd straeon yn Amgueddfa Wrecsam ddydd Sadwrn, 31 Hydref, yn trochi plant ym myd hudol y Mabinogi – casgliad o chwedlau Cymreig traddodiadol.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Caiff sesiwn ei chynnal i blant dan bump oed rhwng 11am tan 11.40am, a bydd ail sesiwn i blant 6 oed a throsodd o 3.30pm tan 4.30pm.
Yn ogystal â chyd-fynd â chefndir chwedlonol Calan Gaeaf, bydd y digwyddiad hefyd yn cynnig ffordd wych i rieni gadw plant yn brysur dros hanner tymor y gaeaf.
Mae’n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. Pris mynediad yw £2.50 i blentyn a £2 i oedolyn, gyda mynediad am ddim i blant sy’n iau na blwydd oed.
Mae’r llefydd yn brin felly mae’n rhaid archebu eich lle ymlaen llaw.
I archebu eich lle, galwch heibio i Amgueddfa Wrecsam ar Stryt y Rhaglaw, neu ffoniwch 01978 297460.
Gorffennol chwedlonol Cymru’n dod yn fyw
Bydd rhannau eraill o arddangosfa Gwlad y Chwedlau yn dod â byd mytholegol chwedlau Cymru yn fyw drwy gyfrwng llyfrau, paentiadau, darluniau, animeiddiad a gwisgoedd.
Uchafbwynt yr arddangosfa yw darluniau gwreiddiol Margaret Jones ar gyfer diweddariad Gwyn Thomas o’r Mabinogi yn 1984 sy’n tanio’r dychymyg a chreu diddordeb yn y Gymru a fodolai tua mil o flynyddoedd yn ôl.
Cadwch lygad am wisgoedd chwedlonol a gynhyrchwyd gan grŵp gwau a gwnïo’r Amgueddfa, y gall oedolion a phlant roi cynnig ar eu gwisgo!
Datblygu Wrecsam yn ‘borth’ treftadaeth Gymraeg
Meddai Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’n wych i weld partneriaeth Llyfrgell Wrecsam gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn dod ag arddangosfa arall llawn trysorau canoloesol a modern i Wrecsam.
“Mae’r arddangosfa hon yn un o nifer o weithgareddau diwylliannol sy’n digwydd ar draws y fwrdeistref sirol sy’n profi fod Wrecsam yn borth i dreftadaeth Cymru ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.”
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION