Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae chwedl y Brenin Arthur yn dod i Wrecsam …
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Mae chwedl y Brenin Arthur yn dod i Wrecsam …
Busnes ac addysgPobl a lle

Mae chwedl y Brenin Arthur yn dod i Wrecsam …

Diweddarwyd diwethaf: Awst 13, 2018 3:17 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Mae chwedl y Brenin Arthur yn dod i Wrecsam ...
RHANNU

Yr haf hwn mae Amgueddfa Wrecsam yn rhoi’r cyfle i chi fynd ati i ailddarganfod hud y Mabinogi, Y Brenin Arthur a Marchogion y Ford Gron!

Cynnwys
  • Gorffennol chwedlonol Cymru’n dod yn fyw
  • Gweithgareddau i blant ac eitemau yn y siop anrhegion
  • Eisiau darganfod mwy

Bydd arddangosfa newydd, Gwlad y Chwedlau, sy’n agor fis Gorffennaf, yn galluogi ymwelwyr i weld rhai o’r llawysgrifau canoloesol a gadwodd fersiynau ysgrifenedig cyntaf Pedair Cainc y Mabinogi.

Mae’r llawysgrifau hyn yn cynnwys rhai o’r cyfeiriadau cynharaf at y Brenin Arthur gan gynnwys Llyfr Gwyn Rhydderch o’r 14eg ganrif a Historia Regum Britanniae (Hanes Brenhinoedd Prydain) Sieffre o Fynwy, ac maent yn cael eu harddangos am y tro cyntaf yng ngogledd ddwyrain Cymru.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

Gorffennol chwedlonol Cymru’n dod yn fyw

Bydd rhannau eraill o arddangosfa Gwlad y Chwedlau yn dod â byd mytholegol chwedlau Cymru yn fyw drwy gyfrwng llyfrau, paentiadau, darluniau, animeiddiad a gwisgoedd.

Uchafbwynt yr arddangosfa yw darluniau gwreiddiol Margaret Jones ar gyfer diweddariad Gwyn Thomas o’r Mabinogi yn 1984 sy’n tanio’r dychymyg ac yn creu diddordeb yn y Gymru a fodolai tua mil o flynyddoedd yn ôl.

Cadwch lygad am wisgoedd chwedlonol a gynhyrchwyd gan grŵp gwau a gwnïo’r Amgueddfa, gall oedolion a phlant roi cynnig ar eu gwisgo!

Gweithgareddau i blant ac eitemau yn y siop anrhegion

Hefyd bydd cyfres o weithgareddau wedi’u hysbrydoli gan y thema Gwlad y Chwedlau ar ddyddiau Llun a Mawrth yn ystod gwyliau’r haf. Bydd siop yr amgueddfa yn gwerthu cofroddion chwedlonol ac Arthuraidd a bydd yna anrhegion addas i bob oed.

Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys tri animeiddiad wedi’u creu gan fyfyrwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam sydd wedi’u hysbrydoli gan chwedlau Cymru. Mae pob animeiddiad wedi’u cynhyrchu’n arbennig ar gyfer eu dangos yn yr arddangosfa hon.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones “Mae’n wych i weld partneriaeth Llyfrgell Wrecsam gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn dod ag arddangosfa arall llawn trysorau canoloesol a modern i Wrecsam.

“Mae’r arddangosfa hon yn un o nifer o weithgareddau diwylliannol sy’n digwydd ar draws y fwrdeistref sirol dros fisoedd yr haf sy’n profi fod Wrecsam yn borth i dreftadaeth Cymru ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.”

Eisiau darganfod mwy

  • Bydd arddangosfa Gwlad y Chwedlau: Cymru, Arthur a Chwedlau’r Mabinogi, i’w gweld o 21 Gorffennaf hyd at 3 Tachwedd 2018.
  • Llyfr Gwyn Rhydderch and Brut y Brenhinedd will be on show until Saturday, August 25, when they will be replaced by other Arthurian texts.
  • Arddangoswyd Llyfr Gwyn Rhydderch a Brut y Brenhinedd hyd at ddydd Sadwrn, Awst 25 – bydd y rhain yn gael eu disodli gan llyfrau Arthuriaidd arall.
  • Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Amgueddfa ar 01978 297 460 neu e-bostiwch yr amgueddfa museum@wrexham.gov.uk

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

Each i wefan Tŷ Pawb yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://bit.ly/2s6hsrw”] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Council Bellevue Park Sgoriwch gôl, serfiwch âs… mwy o bethau llawn hwyl i blant
Erthygl nesaf Wrexham Council Tourist Information Centre Food Drink Cewch gynigion hyd yn oed gwell yn eich Canolfan Groeso gyda’r cerdyn hwn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English