Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Myfyrwyr yn cael eu hannog i gwblhau’r cyfrifiad ar gyfer eu llety yn ystod y tymor nawr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Pontcysyllte aqueduct
Dweud Eich Dweud yn Nyfodol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
Pobl a lle
Theatr Stiwt
Ysgolion Wrecsam yn ymuno: Cyngerdd codi arian ar gyfer apel Eisteddfod Genedlaethol 2025!
Arall
Rydyn ni'n chwifio'r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog
Rydyn ni’n chwifio’r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
food supply chain
Cwmni Wrecsam yn gyrru twf yng nghadwyn cyflenwi bwyd Cymru
Busnes ac addysg
funding
Cynllun grant newydd ar gael i fusnesau Wrecsam – gwnewch gais nawr!
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Myfyrwyr yn cael eu hannog i gwblhau’r cyfrifiad ar gyfer eu llety yn ystod y tymor nawr
ArallPobl a lle

Myfyrwyr yn cael eu hannog i gwblhau’r cyfrifiad ar gyfer eu llety yn ystod y tymor nawr

Diweddarwyd diwethaf: 2021/04/30 at 11:38 AM
Rhannu
Darllen 8 funud
Census 2021
RHANNU

Mae’r ymateb i Gyfrifiad 2021 wedi bod yn wych, ond mae’n bwysig bod pawb yn cael eu cyfrif ac mae hynny’n cynnwys myfyrwyr.

Cynnwys
Ffeithiau am y cyfrifiad…Rhai celwyddau am y cyfrifiad yr ydych wedi’u clywed efallai!Celwydd 1: Dyw myfyrwyr ddim yn cyfrif yn y cyfrifiadCelwydd 2: Byddaf yn cael fy nghyfrif ddwywaith os ydwyf eisoes wedi cael fy nghyfrif ar ffurflen fy rhieniCelwydd 3: Dwi ddim yn ddinesydd Prydeinig, felly does dim angen i mi gael fy nghyfrifCelwydd 4: Bydd fy ngwybodaeth i yn cael ei rhannuCelwydd 5: Mae’r cyfrifiad yn wastraff amser. Dyw e ddim yn fy helpu i.Celwydd 6: Mae Cyfrifiad 2021 drosodd – mae Diwrnod y Cyfrifiad wedi bod felly does dim angen llenwi’r ffurflen

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) am wneud yn siŵr bod cynifer o fyfyrwyr â phosibl yn cwblhau cyfrifiad ar gyfer eu llety yn ystod y tymor er mwyn cael cyfrif cywir a chynrychioliadol o’r boblogaeth myfyrwyr.

Mae’n bwysig sicrhau bod cymunedau myfyrwyr yn cael eu cyfrif wrth gynllunio a darparu gwasanaethau yn eu trefi a dinasoedd prifysgol a choleg, yn ogystal â chartref y teulu.

“Mae Cyfrifiad 2021 wedi mynd yn wych hyd yma,” meddai cyfarwyddwr gweithrediadau SYG, Pete Benton. “Mae’r mwyafrif helaeth o bobl ledled Cymru a Lloegr eisoes wedi cymryd rhan, ond, er mwyn i ni gael y darlun mwyaf cywir o’r boblogaeth gyfan, mae angen i bawb lenwi eu holiadur, gan gynnwys myfyrwyr. Hyd yn oed os cawsoch eich cynnwys ar gyfrifiad eich rhieni am eich bod yn aros yno ar 21 Mawrth, mae angen i chi lenwi holiadur ar gyfer eich cyfeiriad arferol yn ystod y tymor o hyd.”

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Dywedodd Hillary Gyebi-Ababio, Is-lywydd Addysg Uwch Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr: “Mae mor bwysig bod myfyrwyr, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol, yn cael eu cynrychioli oherwydd mae’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu yn helpu i lywio penderfyniadau am gyllid sy’n effeithio ar y gymuned myfyrwyr a phrofiad myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau sydd eu hangen nawr ac yn y dyfodol fel swyddi a chyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd, polisi amgylcheddol, anghenion gofal iechyd a chysylltiadau trafnidiaeth prifysgol.”

I gael rhagor o wybodaeth a manylion am sut i gwblhau’r cyfrifiad, ewch i: cyfrifiad.gov.uk/myfyrwyr

Ffeithiau am y cyfrifiad…Rhai celwyddau am y cyfrifiad yr ydych wedi’u clywed efallai!

Celwydd 1: Dyw myfyrwyr ddim yn cyfrif yn y cyfrifiad

Mae myfyrwyr yn hollbwysig ac yn cyfrif! Mae angen i bob myfyriwr gael ei gynnwys yn y cyfrifiad, a dylai pob un lenwi ffurflen ar gyfer ei gyfeiriad arferol yn ystod y tymor hyd yn oed os nad oedd yno ar ddiwrnod y cyfrifiad. Mae hyn yn hynod bwysig fel y gall SYG greu darlun cywir o’r boblogaeth myfyrwyr ym mhob ardal leol. Mae’r wybodaeth y mae myfyrwyr yn ei darparu yn hanfodol er mwyn helpu i wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn eu hardal yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt nawr ac yn y dyfodol.

Gall eich prifysgol neu goleg ddweud wrthych chi sut i gwblhau’r cyfrifiad. Neu ewch i cyfrifiad.gov.uk/myfyrwyr a gofynnwch am god mynediad.

Celwydd 2: Byddaf yn cael fy nghyfrif ddwywaith os ydwyf eisoes wedi cael fy nghyfrif ar ffurflen fy rhieni

Peidiwch â phoeni, bydd yr arbenigwyr ystadegau yn SYG yn gwneud yn siŵr nad yw unrhyw un yn cael ei gyfrif ddwywaith pan gaiff y data eu prosesu. Mae dau gwestiwn ar ffurflen y cartref – neu deulu – sy’n cydweithio er mwyn darparu dangosydd sy’n cael ei ddefnyddio i hidlo’r myfyriwr ar ddiwedd y ffurflen yng nghyfeiriad y cartref (fel ei fod ond yn cael ei gyfrif yn “rhannol” yng nghyfeiriad y cartref).

Yna caiff y dangosydd hwnnw ei ddefnyddio wrth brosesu i nodi a thynnu’r dyblygiad. Dylech fod yn ymwybodol, os na chewch eich cyfrif yn eich cyfeiriad yn ystod y tymor, mai dim ond cofnod rhannol ohonoch fydd. Ni fyddwch wedi cael y cyfle i ateb cwestiynau am eich cyfeiriadedd rhywiol, eich crefydd na’ch hunaniaeth o ran rhywedd, er enghraifft.

Mae’r cwestiynau hyn i unigolion yn bwysig wrth gynllunio gwasanaethau lleol.

Celwydd 3: Dwi ddim yn ddinesydd Prydeinig, felly does dim angen i mi gael fy nghyfrif

Mae’n rhaid i bawb sy’n aros yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth, gael eu cyfrif ac mae hynny’n cynnwys myfyrwyr rhyngwladol. Os ydych chi’n fyfyriwr rhyngwladol ac nad ydych chi yng Nghymru na Lloegr ar hyn o bryd, ond y byddech chi fel arfer, mae SYG hefyd am eich cyfrif chi.

Celwydd 4: Bydd fy ngwybodaeth i yn cael ei rhannu

Nid yw hynny’n wir – ni fydd neb yn gweld y wybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi yn y cyfrifiad am 100 mlynedd.

Ni all neb eich adnabod chi na’ch ymatebion o’r ystadegau rydym ni’n eu cyhoeddi. Yn wir, ni all eich gwybodaeth bersonol chi gael ei gweld gan unrhyw un sy’n gwneud penderfyniadau amdanoch chi. Ni all gael ei defnyddio gan y llywodraeth i ddylanwadu ar hawliadau budd-daliadau, cais i breswylio, statws
mewnfudo na threthi, na gan landlordiaid nac unrhyw sefydliad preifat arall.

Celwydd 5: Mae’r cyfrifiad yn wastraff amser. Dyw e ddim yn fy helpu i.

Mae’r cyfrifiad o fudd i ni gyd oherwydd mae’n sail i’r gwasanaethau y mae pob un ohonom ni yn dibynnu arnyn nhw. Mae’n darparu gwybodaeth am ein trefniadau byw, iechyd, addysg a swyddi, a bydd y wybodaeth ohono yn helpu i lywio penderfyniadau lleol a chenedlaethol am flynyddoedd i ddod. O’r amgylchedd i gynllunio llwybrau beicio, o gynlluniau swyddi i nifer y gwelyau mewn ysbytai – mae gwybodaeth o’r cyfrifiad hyd yn oed yn cael ei defnyddio wrth benderfynu ble i adeiladu archfarchnadoedd newydd, pa fwyd i roi ar y silffoedd a faint o fannau parcio ceir i bobl anabl i’w cynnwys.

Celwydd 6: Mae Cyfrifiad 2021 drosodd – mae Diwrnod y Cyfrifiad wedi bod felly does dim angen llenwi’r ffurflen

Oes! Rhaid i bob cartref gwblhau’r cyfrifiad yn ôl y gyfraith ac, er bod Diwrnod y Cyfrifiad a oedd ar 21 Mawrth 2021, wedi bod erbyn hyn, nid yw’n rhy hwyr i lenwi’r holiadur i osgoi cael dirwy. Os ydych chi’n fyfyriwr sydd heb gwblhau cyfrifiad ar gyfer eich cyfeiriad yn ystod y tymor, gwnewch hynny nawr. Mae ond yn cymryd 10 munud. Ewch i cyfrifiad.gov.uk/myfyrwyr a gofynnwch am god mynediad.

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF

Rhannu
Erthygl flaenorol A allech chi wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn? A allech chi wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn?
Erthygl nesaf Covid-19 Nodyn briffio Covid-19 – cofiwch y pethau sylfaenol dros ŵyl y banc (dwylo, wyneb, pellter, awyr iach)

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Pontcysyllte aqueduct
Dweud Eich Dweud yn Nyfodol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
Pobl a lle Mehefin 23, 2025
Theatr Stiwt
Ysgolion Wrecsam yn ymuno: Cyngerdd codi arian ar gyfer apel Eisteddfod Genedlaethol 2025!
Arall Mehefin 23, 2025
Rydyn ni'n chwifio'r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog
Rydyn ni’n chwifio’r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Mehefin 23, 2025
food supply chain
Cwmni Wrecsam yn gyrru twf yng nghadwyn cyflenwi bwyd Cymru
Busnes ac addysg Mehefin 23, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pontcysyllte aqueduct
Pobl a lle

Dweud Eich Dweud yn Nyfodol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Mehefin 23, 2025
Rydyn ni'n chwifio'r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Rydyn ni’n chwifio’r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog

Mehefin 23, 2025
aging couple
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Heneiddio’n Dda – cewch wybod mwy ar 26 Mehefin

Mehefin 20, 2025
Lucy Cowley
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Cyhoeddi rhestr fer dysgwr y flwyddyn Eisteddfod 2025

Mehefin 20, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English