Mae’n bosib eich bod wedi sylwi fod y meinciau a’r biniau ger cerflun y Bwa ar Stryt yr Arglwydd wedi eu symud.
Mae hyn wedi digwydd mewn ymateb i geisiadau gan grŵp aml asiantaeth canol y dref yn gynharach yr wythnos hon am iddynt gael eu cludo ymaith oherwydd yr ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys delio cyffuriau, sy’n digwydd yn yr ardal a’r effaith negyddol roedd hyn yn ei gael ar Wrecsam gyfan.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Phriffyrdd: “Roedd yr ymddygiad gwrthgymdeithasol oedd yn digwydd yn yr ardal benodol hon yn annerbyniol ac mae hi’n iawn fod busnesau ac aelodau o’r cyhoedd wedi cwyno. Cyn gynted ag y derbyniom y ceisiadau i symud eitemau fe ymatebodd swyddogion o Strydwedd a symud y meinciau a’r biniau. Byddant nawr yn cael eu defnyddio mewn ardaloedd mwy priodol yng nghanol y dref.”
“Hanfodol ein bod i gyd yn gweithio gyda’n gilydd”
Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Dwi’n ddiolchgar iawn i Strydwedd am ymateb mor gyflym i’r mater hwn a godwyd gan fusnesau ac ymwelwyr â chanol y dref. Mae’r heddlu’n monitro’r ardal yn fanwl gyda phatrolau cynyddol ac fe fyddwn yn parhau gyda gwaith allgymorth llwyddiannus i fynd i’r afael â’r materion gwaelodol. Ar yr un pryd fe ymdrinnir yn gadarn â’r rhai sy’n delio cyffuriau. Mae’n hanfodol ein bod i gyd yn parhau i weithio gyda’n gilydd i ymateb i’r materion yng nghanol y dref er mwyn sicrhau fod Wrecsam yn parhau yn lle diogel i bawb.”
Byddwn yn gwneud penderfyniad yn fuan ynglŷn â lle i ail-leoli’r meinciau.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION