- Parcio y tu allan i swyddfeydd Cyngor Wrecsam ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam LL13 7TU
- Bysiau gwennol yn gadael bob 20 munud o 1pm tan 2.40pm.
Os ydych chi’n gyrru i’r gêm Wrecsam v Stockport ddydd Sadwrn yma (22 Mawrth), peidiwch ag anghofio rhoi cynnig ar y gwasanaeth Parcio a Theithio newydd ar Ffordd Rhuthun.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Cyngor Wrecsam gynllun i dreialu gwasanaeth Parcio a Theithio newydd ar gyfer gweddill gemau cartref Clwb Pêl-droed Wrecsam y tymor hwn.
Bydd bysiau’n gadael o Ffordd Rhuthun bob 20 munud o 1pm tan 2.40pm, gan ollwng cefnogwyr ar Ffordd yr Wyddgrug ger stadiwm STōK Cae Ras.
Ar ôl y gêm, bydd bysus yn gadael Ffordd Ganolog bob 20 munud o 5pm, ac yna o gyferbyn â’r stadiwm ar Ffordd yr Wyddgrug bob 20 munud o 6pm.
Y nod yw lleihau tagfeydd a chynnig parcio cyfleus i gefnogwyr sy’n teithio mewn car.
Mae’r gwasanaeth bws gwennol yn cael ei ddarparu gan Arriva North West & Wales, ac mae’r cynllun yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru.
Dywedodd Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Rwy’n falch iawn o weld y cynllun peilot hwn yn cael ei gynnal yn Wrecsam, a byddwn i’n annog cefnogwyr sy’n teithio mewn car i roi cynnig arno.
“Mae’r torfeydd yn y STōK Cae Ras yn anhygoel, ac wrth i fwy o bobl ymweld â’r stadiwm, mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o reoli parcio a thagfeydd yn y ddinas.
“Mae diwrnodau gemau yn hynod o bwysig, ac rwy’n falch iawn bod Cyngor Wrecsam a’i bartneriaid yn treialu’r cynllun hwn, a allai gynnig manteision enfawr i gefnogwyr a thrigolion lleol.”

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Dai a Newid Hinsawdd: “Gyda llwyddiant parhaus Clwb Pêl-droed Wrecsam a nifer y cefnogwyr, sy’n cynyddu’n barhaus, sydd eisiau mynd i gemau cartref, rydym wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni i fynd i’r afael â’r problemau sy’n gysylltiedig â’r galw am barcio ar ddiwrnod gêm.
“Rwy’n falch o gyhoeddi bod Cyngor Wrecsam wedi dod i gytundeb gydag Arriva Gogledd-orllewin Lloegr a Chymru i weithredu gwasanaeth bws gwennol pwrpasol i ategu’r cyfleuster parcio diwrnod gêm presennol sydd ar gael o’n safle Ffordd Rhuthun.
“Gall cefnogwyr elwa o barcio am ddim ar y safle, ac yna byddant yn gallu teithio i’r cae ras ac oddi yno ar wasanaeth bws lleol pwrpasol. £2 fydd pris tocynnau i oedolion, £1.30 i blant a phobl ifanc, a derbynnir tocynnau consesiynol.
“Bydd y treial hwn yn dechrau gyda’r gêm gartref nesaf ddydd Sadwrn, 22 Mawrth pan fydd Stockport County yn ymweld â Chae Ras STōK, a bydd yn rhedeg am weddill y tymor hwn.”