Mae’r ymgyrch i sicrhau mynediad i’r holl ddefnyddwyr yng Ngorsaf Rhiwabon yn parhau ac rydym ni wedi bod yn awyddus i’w weld yn digwydd ers blynyddoedd.
Mae Network Rail wedi dweud wrthym ni eu bod yn bwriadu enwebu Gorsaf Rhiwabon dan Raglen ‘Access for All’ yng Nghyfnod Rheoli 7 ac rydym ni wedi dangos ein cefnogaeth i’r enwebiad hwn.
Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2022/23 – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Medi!
“Pwysigrwydd Gorsaf Rhiwabon”
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, y Dirprwy Arweinydd sy’n gyfrifol am Gludiant Strategol, “Rydw i wedi ysgrifennu at Network Rail yn pwysleisio pwysigrwydd Gorsaf Rhiwabon, y bwysicaf yn Wrecsam ar ôl Gorsaf Gyffredinol Wrecsam. Mae’n hynod boblogaidd gyda theithwyr lleol ac mae’n gyfnewidfa allweddol i rai sy’n ymweld â’r Safle Treftadaeth y Byd ym Mhontcysyllte.
“Mae’r diffyg mynediad i rai sydd efo problemau symudedd, rhieni hefo plant ifanc a rhai sydd efo bagiau trwm yn golygu eu bod nhw dan anfantais fawr gan nad ydyn nhw’n gallu defnyddio lein Caer yn Rhiwabon. Mae bellach angen ei gwella i fod o safon fodern i bob teithiwr.
“Rydw i’n ddiolchgar i Network Rail am eu cefnogaeth ac rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw a grwpiau lleol ar y prosiect hwn wrth iddo ddatblygu.”
Mae Access for All yn fenter gan Lywodraeth y DU a lansiwyd yn 2006 i greu llwybr hygyrch, heb rwystrau o fynedfa’r orsaf i’r platfform. Mae hyn yn cynnwys darparu lifftiau neu rampiau, yn ogystal â’r gwaith cysylltiedig a gwaith adnewyddu ar hyd y llwybr.
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR