Mae data twristiaeth newydd, a gasglwyd gan arolygon busnesau lletygarwch a theithwyr yn 2022, wedi amlygu sut mae Sir Wrecsam wedi cael ei blwyddyn gryfaf hyd yma.
Mae data STEAM blynyddol Global Tourism Solutions (asiantaeth genedlaethol sy’n cofnodi data ar gyfer y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn y DU) yn dangos bod Wrecsam, yn 2022, wedi elwa ar ychydig dros £151 miliwn o wariant ymwelwyr – 51% yn fwy na data 2021. Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod nifer yr ymwelwyr undydd wedi cynyddu bob blwyddyn 33%, gyda 1.9 miliwn o ymwelwyr undydd a 430,00 o ymwelwyr eraill yn aros mwy nag un noson – 98% yn uwch na 2021.
Er gwaetha’r problemau recriwtio yn y sector lletygarwch, yn 2022 roedd yna oddeutu 1,700 o swyddi twristiaeth lleol llawn amser, gyda thwf o 36% bob blwyddyn. Nid yw hyn yn cynnwys swyddi tymhorol na rhan-amser, sy’n gyffredin iawn yn y sector.
Yn bwysicach, mae’r data yn amlygu bod hon yn un o’r blynyddoedd sydd wedi dangos y cynnydd mwyaf o un flwyddyn i’r llall yng Nghymru, yn ogystal â dangos bod gwerth twristiaeth yn 2022 wedi trechu perfformiad cryf Sir Wrecsam cyn y pandemig yn 2019, gyda thwf o 12%.
Mae’r data newydd yn adlewyrchu apêl Sir Wrecsam fel cyrchfan – o ymweliadau dydd i atyniadau lleol, i ddigwyddiadau a busnes yn yr ardal.
Gan gyfeirio at y canlyniadau blynyddol diweddaraf, dywedodd y Cyng. Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, “Mae’r ffigyrau diweddaraf yn hwb arall i Wrecsam a’r sector twristiaeth. Yn ystod y deunaw mis diwethaf rydym ni wedi gweld cynnydd amlwg yn nifer yr ymwelwyr lleol ac o dramor, diolch yn rhannol i’r sylw sydd wedi’i roi i’r ardal yn sgil llwyddiant y clwb pêl-droed, y diddordeb yn dilyn y cais Dinas Diwylliant y llynedd, ein rhaglen ddigwyddiadau gyffrous a gwaith caled a brwdfrydedd ein busnesau lletygarwch a digwyddiadau i arddangos Wrecsam.
“Ond does dim amser i gymryd seibiant gan ein bod ni wedi ymrwymo’n llwyr i ddod â mwy o ddigwyddiadau cyrchfan i Wrecsam yn y dyfodol, fel ras feics Taith Prydain a’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2025 – a fydd yn dod â sawl budd i’n heconomi. Rydym ni hefyd yn sylweddoli bod ein busnesau twristiaeth yn wynebu nifer o heriau, o ran sgiliau a phrinderau yn y gadwyn gyflenwi, chwyddiant a’r bygythiad yn sgil materion fel y dreth dwristiaeth arfaethedig, ond byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â nhw i fynd i’r afael â’r rhain”.
Sam Regan yw perchennog bwyty ac ystafelloedd y Lemon Tree yng nghanol y ddinas, fo hefyd yw Cadeirydd Partneriaeth Twristiaeth Dyma Wrecsam sy’n cynrychioli dros 60 o fusnesau lletygarwch Sir Wrecsam. Mae Sam yn croesawu’r canlyniadau a dywedodd eu bod yn adlewyrchu ei ganfyddiad ef o’r 12 mis diwethaf. “Diolch byth, ar ôl heriau 2020 a 2021 yn y sector twristiaeth, rydym ni’n teimlo bod busnes wedi gwella’n aruthrol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wrth i bobl fagu hyder i deithio a chymdeithasu unwaith eto. Mae yna alw mawr am lety – yn y Lemon Tree ac ar draws Wrecsam, ac wrth i’n marchnad ganol yr wythnos draddodiadol ddychwelyd a phobl yn aros dros nos i fynd i ddigwyddiadau, y diddordeb yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam a phobl ar wyliau gartref yn ymweld â Wrecsam am y diwrnod, rydym ni’n brysur iawn o ddydd Iau tan ddydd Sul. Mae’n teimlo fel amser da iawn i fod yn Wrecsam ac rydw i’n hyderus iawn y bydd hyn yn parhau, gyda buddsoddiadau newydd ar y gweill a chefnogaeth gymunedol gref.
Andrew Plimmer yw Rheolwr Datblygu Busnes Everbright Hotel Group sy’n berchen ar westy Rossett Hall yng ngogledd y sir. Dywedodd Andrew fod y gwesty wedi cael blwyddyn dda iawn, gyda mwy o ddigwyddiadau a phobl yn aros dros nos. Meddai Andrew, “Rydym ni wedi cael blwyddyn gadarnhaol ar y cyfan, o ran y farchnad hamdden a’r farchnad gorfforaethol. Mae’r galw, os nad yw’n fwy gyda’r amseroedd aros hwyrach, yn dangos cynnydd yn nifer yr ystafelloedd rydym ni wedi’u gwerthu yn Rossett Hall.
“Yn ddiddorol iawn rydym ni wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymholiadau priodas a digwyddiadau gan bobl y tu allan i Wrecsam, sy’n dangos bod pobl yn fodlon rhoi mwy o ystyriaeth i’n hardal. Heb os nac oni bai, rydym ni’n fwy gweladwy ac ym meddyliau teithwyr fwy nag erioed o’r blaen, sy’n newyddion gwych!”
Mae Joe Bickerton, Rheolwr Twristiaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn cytuno â Sam ac Andrew, ac eglurodd rai o nodau Cynllun Rheoli Cyrchfan newydd Wrecsam a fydd yn cefnogi’r sector twristiaeth yn ystod y blynyddoedd nesaf. Ychwanegodd Joe, “Mae’r canlyniadau diweddaraf yn gadarnhaol iawn ac yn coroni degawd o dwf cadarnhaol, gyda thwf cyffredinol o 63% yng ngwariant twristiaid.
“Mae’n rhaid i’n busnesau lletygarwch lleol gymryd y clod am hyn, gan mai nhw sydd wedi treulio amser a buddsoddi, gwneud llawer o waith hyrwyddo ac, yn y pendraw, darparu’r profiadau sy’n rhoi atgofion melys i bobl sy’n ymweld â Wrecsam. Diolch i’r dref, er gwaetha’r heriau parhaus sy’n gwneud y maint yr elw yn dynn, mae gennym ni fôr o fusnesau yma yn Wrecsam sy’n dal yn wydn ac yn benderfynol o wneud gwahaniaeth a darparu croeso cynnes iawn.
“Heddiw mae gennym ni lwyfan byd-eang na all arian ei brynu, ac mae pob un ohonom ni’n benderfynol o helpu twristiaeth i barhau i ddatblygu yn gyflym yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd er budd Wrecsam. Ynghyd â’r sylw rhyngwladol rydym ni’n ei gael, rydym ni newydd lansio cynllun Llysgenhadon Twristiaeth ar-lein newydd, wedi derbyn cyllid i greu llyfryn newydd ar gyfer 2023/24 ac wedi cael arwyddion ffordd newydd ar gyfer y pyrth. Rydym ni hefyd yn gweithio gyda’r sector i ddeall sut fedrwn ni eu helpu nhw gyda’r heriau sydd yn eu hwynebu wrth i ni nesáu at 2024.”