Yng nghyfarfod y Cyngor, pleidleisiodd yr aelodau i dderbyn penodiad y Cynghorydd John Pritchard i gael sedd ar y Bwrdd Gweithredol.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Rwyf wedi cysylltu â chydweithwyr ar y Bwrdd Gweithredol ac rwyf wedi gwneud y newid canlynol i ddeiliaid portffolio a ddaw i rym ar unwaith. Bydd y Cyng. John Pritchard yn cymryd cyfrifoldeb am bortffolio Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-Dlodi, a bydd y Cyng. Andrew Atkinson yn symud i Wasanaethau Plant. Rwy’n sicr y byddent yn gweld y swyddi’n ddiddorol ac yn heriol a byddent yn gweithio er lles holl bobl ifanc yn Wrecsam.”
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
“Yn falch o ymuno â’r Bwrdd Gweithredol”
Dywedodd y Cyng. Pritchard: “Rwy’n falch o ymuno â Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam ac edrychaf ymlaen i weithio gyda swyddogion ac aelodau ar gynlluniau a strategaethau allweddol mewn perthynas â gwasanaethau ieuenctid a gwrth-dlodi. Maent yn feysydd hynod o bwysig, sy’n cynnwys Cyfiawnder Ieuenctid, Cydraddoldeb, Diogelwch Cymunedol a mynediad i weithgareddau hamdden a diwylliannol.”
Dywedodd y Cyng. Atkinson: “Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda’r Gwasanaethau Plant a Gwrth-Dlodi, ond rwy’n teimlo ei bod yn amser erbyn hyn ar gyfer heriau newydd y portffolio Gwasanaethau Plant ehangach, sy’n cynnwys amddiffyn plant, iechyd, iechyd meddwl ymysg pobl ifanc, maethu, mabwysiadu, gofalwyr, canolfannau i deuluoedd a sicrhau bod amddiffyn y rhai sy’n ddiamddiffyn yn ganolog i’n gwaith. Er y bydd nifer o heriau o’n blaenau, rwy’n edrych ymlaen at gyflawni’r rôl ac i weithio gyda staff a phobl ifanc sydd ynghlwm y gwasanaeth. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r holl swyddogion yr wyf wedi gweithio gyda nhw am eu proffesiynoldeb a’u hymroddiad i Fwrdeistref y Sir.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN