Rydym yn parhau i roi Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan (PGCT) ar waith ar draws y fwrdeistref sirol ac rydym bellach wedi gosod gorsaf wefru 100kw cyntaf Gogledd a Chanolbarth Cymru yn y Waun.
Gall y gwefrwr cyflym iawn wefru car hyd at 80% mewn tua 20-30 munud a bydd o fudd mawr i yrwyr cerbydau trydan a chefnogi’r economi leol gyda defnyddwyr yn stopio am gyfnod byr i ddefnyddio’r amwynderau lleol.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Rydym hefyd wedi gosod mwy yng nghanol y dref gan gynnwys pwynt gwefru 50kw sy’n gallu gwefru hyd at 80% mewn tua hanner awr i awr ynghyd â dau bwynt gwefru deuol ar gyfer arhosiad hirach a gwefru.
Mae’r rhain wrth ymyl Neuadd y Dref ac maent yn caniatáu i ddefnyddwyr wefru tra’n defnyddio’r siopau a chyfleusterau yng nghanol y dref.
Mae’r pwyntiau gwefru hyn yn ychwanegiad i’n rhwydwaith o ddeg pwynt gwefru hygyrch i’r cyhoedd, a leolir ar draws y Fwrdeistref Sirol, o ganol y dref, parciau’r sir i leoliadau gwledig fel Glyn Ceiriog.
Bydd Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan yn ein helpu i gyrraedd allyriadau di-garbon
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r prosiectau hyn yn dangos ein hymrwymiad i deithio gwyrdd a hybu’r defnydd o gerbydau trydan ledled y Sir ac i ymwelwyr â’r ardal.
“Roeddem wedi datgan argyfwng hinsawdd yn 2019 gyda’r nod o gael allyriadau di-garbon erbyn 2030. Mae’n agenda uchelgeisiol a bydd prosiectau fel gosod y pwyntiau gwefru hyn mewn mannau cyfleus yn ein helpu i gyrraedd ein hamcanion.”
Mae’r pwyntiau gwefru wedi cael defnydd da yn barod a defnyddiwyd pan gafodd cerbyd sbwriel trydan ei wefru fel rhan o dreial yn ddiweddar i weld pa mor dda fyddent ar rowndiau.
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Mark Pritchard: “Fel cyngor rydym bob amser yn edrych am ffyrdd y gallwn leihau faint o allyriadau a gynhyrchir o’n cerbydau, ein hadeiladau, unrhyw beth yr ydym yn ei brynu a sut y gallwn ddefnyddio ein tir orau.
“Mae newid hinsawdd yn real ac mae’n rhaid i ni gyd edrych ar sut y gallwn leihau effaith niweidiol allyriadau carbon. Mae gennym dîm bach ond ymroddedig iawn a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu gwaith i’n helpu i gyflawni ein hamcanion er mwy gwneud Wrecsam yn lle glanach a gwyrddach i fyw, ymweld a gweithio yno.”
Er mwyn symud yr agenda ymlaen ymhellach, bydd cyfarfod nesaf y Bwrdd Gweithredol hefyd yn ystyried ein Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio sy’n canolbwyntio ar bedwar prif faes:
- Adeiladau
- Cludiant a Symudedd
- Defnydd Tir
- Caffael (y ffordd yr ydym yn cael gafael ar ein nwyddau a’n gwasanaethau)
Mae’r Cynllun wedi’i lunio yn dilyn ymarfer ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2020 a digwyddiadau ar-lein ym mis Chwefror 2021.
Gallwch ddarllen mwy am hyn yma:
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF