Mae gennym newyddion da iawn.
Dyfarnwyd £65,000 i ni i ddechrau, a oedd yn caniatáu i ni ddilyn Cynnig Rownd 2 am £1.52 miliwn at Gynllun Treftadaeth Treflun Wrecsam.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi – rydym wedi ei sicrhau!
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Hwb o filiwn o bunnau i Wrecsam
Gyda chymaint o ganol ein trefi yn dioddef o effaithiau canolfannau siopa tu allan i’r dref ac adwerthwyr ar-lein, mae trefi mwyaf gogledd Cymru’n bwriadau dilyn y patrwm ar ôl dyfarniad o dros £1.5 miliwn gan y Loteri Genedlaethol.
Bydd y prosiect pum mlynedd yn bwriadu adfer a chynnal sawl adeilad sy’n bwysig yn hanesyddol, gan eu wneud yn ddeniadol ar gyfer busnesau lleol ac unigolion, cyfuno hyfforddiant, addysg a chodi ymwybyddiaeth drwy uwchsgilio drwy raglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol.
Mae hyd at 31 adeilad wedi cael eu clustnodi ar gyfer eu gwella a bydd y prosiect yn gweithio gyda phartneriaid lleol perthnasol i ddarparu sgiliau adeiladu traddodiadol i sicrhau bod gwaith adnewyddu’n cael ei gynnal mewn modd sy’n gweddu gyda threftadaeth bwysig sawl adeilad.
Wedi’i arwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, bydd y gwaith a gynhelir o fudd i Wrecsam a’r cyffiniau am flynyddoedd i ddod, yn ôl Becky Lowry, Pennaeth Gwasanaeth am Adfwyio.
“Ein bwriad gyda’r gwaith hwn yw canolbwyntio ar graidd hanesyddol canol tref Wrecsam a bydd unrhyw waith sy’n cael ei wneud yn cyd-fynd â phrosiectau adfywio parhaus. Rydym yn cydweithio gyda Tŷ Pawb ac Amgueddfa Wrecsam ymysg eraill i sicrhau bod dull gweithredu cyfunol ac wrth ystyried mai arian chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yw hwn, roedd yn bwysig ein bod yn ystyried barn y gymuned leol. Mae amseroedd gwell ar y gweill i Wrecsam.”
Mae’r buddsoddiad hwn i’r unfed ganrif ar hugain yn bwriadu adfywio ffyniant economaidd y dref ymhellach.
Un o’r prif bartneriaid yw Cadwyn Clwyd ac mae Helen Williams yn gweithio i’r sefydliad.
“Dyma newyddion gwych i Wrecsam a gogledd ddwyrain Cymru. Gyda nod yn y pendraw o wella cyfleusterau a gwasanaethau o fewn canol tref Wrecsam ei hun, bydd y broses yn caniatáu i fyfyrwyr a’r bobl leol gymryd rhan mewn rhaglenni hyfforddiant a digwyddiadau sgiliau, a byddant yn gallu ymfalchïo eu bod yn cymryd rhan mewn prosiect sy’n hanfodol i gynaliadwyedd tymor hir yr ardal.”
Gyda nod yn y pendraw o wella cyfleusterau a gwasanaethau o fewn canol tref Wrecsam ei hun, bydd y broses yn caniatáu i fyfyrwyr a’r bobl leol gymryd rhan mewn rhaglenni hyfforddiant a digwyddiadau sgiliau, a byddant yn gallu ymfalchïo eu bod yn cymryd rhan mewn prosiect sy’n hanfodol i gynaliadwyedd tymor hir yr ardal.
Mae partneriaid allweddol eraill yn cynnwys Coleg Cambria, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Cymdeithas Dinesig Wrecsam a CAIS.
Bydd rhaglen Sgiliau Adeiladu Traddodiadol yn cael ei chynnal ochr yn ochr â’r gwaith hwn, gyda’r bwriad o uwchsgilio gweithwyr a chontractwyr. Bydd yn trafod elfennau megis plastro, technegau gwaith coed traddodiadol, defnydd calch a morter a chymryd gofal cyffredinol o nodweddion sy’n bwysig yn hanesyddol ar adeiladau cofrestredig neu bwysig.
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD