Dyma’r newyddion diweddaraf ar gyfer busnesau yn Wrecsam.
Mwy o fanylion am y Bonws Cadw Swyddi wedi’u cyhoeddi
Fel y soniwyd yn fras mewn diweddariad blaenorol: bydd busnesau yn cael taliad untro o £1,000 am bob gweithiwr a roddwyd ar gyfnod o absenoldeb gyda thâl, sydd yn dal yn gyflogedig ar ddiwedd mis Ionawr 2021. Mae rhagor o fanylion nawr wedi’u cyhoeddi sy’n darparu:
- Trosolwg o’r cynllun
- Manylion ynglŷn â pha gyflogwyr all hawlio’r Bonws Cadw Swyddi
- Manylion ynglŷn â pha weithwyr y gall cyflogwr cymwys hawlio’r Bonws Cadw Swyddi ar eu cyfer.
- Manylion ynglŷn â sut y gall cyflogwyr hawlio’r Bonws Cadw Swyddi
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Am fwy o wybodaeth dilynwch y ddolen isod, bydd cyhoeddiad arall yn darparu canllawiau llawn ym mis Medi 2020:
https://www.gov.uk/government/publications/job-retention-bonus/job-retention-bonus
Gweithwyr sydd ar absenoldeb gyda thâl i gael taliadau dileu swydd llawn o ganlyniad i ddeddf newydd
Fel arfer mae gan weithwyr gyda mwy na 2 flynedd o wasanaeth parhaus sydd yn cael eu gwneud yn ddi-waith, hawl i dâl dileu swydd statudol sy’n seiliedig ar hyd gwasanaeth, oed a chyflog, hyd at uchafswm statudol.
Mewn ymdrech i ddiogelu gweithwyr sydd ar absenoldeb gyda thâl, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno deddfwriaeth, a ddaeth i rym ddydd Gwener, 31 Gorffennaf 2020, a fydd:
• Yn sicrhau bod gweithwyr sydd ar absenoldeb gyda thâl yn cael tâl dileu swydd statudol yn seiliedig ar eu cyflogau arferol, yn hytrach na’r gyfradd absenoldeb gyda thâl is
• Yn golygu na fydd y rhai sydd ar absenoldeb gyda thâl o dan y Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws dan anfantais os ydynt yn colli’u swyddi
• Yn berthnasol i dâl hysbysiad statudol a hawliau eraill, gan roi rhywfaint o sicrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn
I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon.
Grantiau ar gael i fusnesau yn llenwi datganiadau tollau
Os yw eich busnes chi’n llenwi datganiadau tollau, gallwch wneud cais am grantiau i gael arian ar gyfer recriwtio, hyfforddi a gwelliannau TG. I gael rhagor o wybodaeth am bwy all ymgeisio, gwerth y grantiau a sut y gellir eu defnyddio, dilynwch y ddolen hon:
Rhagor o fusnesau yn gallu elwa o Gynllun Benthyciadau Llywodraeth y DU
Mae newidiadau diweddar i reolau cymorth gwladwriaethol yn golygu y gall mwy o fusnesau bach (y rhai hynny sydd â llai na 50 o weithwyr a throsiant o lai na £9 miliwn) elwa o fenthyciadau o hyd at £5 miliwn o dan y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws. Yn y gorffennol, nid yw busnesau sy’n cael eu hystyried yn ‘gwmnïau mewn trafferthion’ wedi llwyddo i gael mynediad at fenthyciad drwy’r Cynllun oherwydd rheolau’r UE.
I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon.
Galw am astudiaethau achos gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chymru Iach ar Waith
Mae Tîm Cymru Iach ar Waith ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awyddus i ddysgu o’r pandemig presennol ac yn dymuno clywed gan sefydliadau am eu profiadau â Covid-19.
Ar hyn o bryd, hoffai Iechyd Cyhoeddus Cymru wybod a fyddech chi’n fodlon cymryd rhan mewn ymarfer byr.
Hoffent ofyn i sefydliadau ddatblygu astudiaeth achos sy’n rhannu gwybodaeth ac enghreifftiau o sut y mae’r cyfnod clo wedi effeithio ar eich gweithrediadau dydd i ddydd. Wrth i bethau ddechrau dychwelyd i’r hen drefn (neu’r drefn newydd), maent yn awyddus i wybod sut mae eich sefydliad chi wedi addasu mewn perthynas ag un o’r pynciau a restrir isod, er mwyn rhannu enghreifftiau o arferion da / arloesi â chyflogwyr eraill. Bydd astudiaethau achos yn cael eu cyhoeddi ar wefan Cymru Iach ar Waith
• Cyfathrebu ac ymgysylltu â staff
• Gweithio o bell / datrysiadau TG
• Datrysiadau carfan / cadw pellter cymdeithasol
• Gweithio’n hyblyg/ cefnogi staff sy’n ofalwyr/ diamddiffyn
• Iechyd a lles meddyliol / mynd i’r afael ag unigedd
• Hyrwyddo lles cynaliadwy
• Hyrwyddo teithio llesol a chynaliadwy
• Rhoi’n ôl / cefnogi gweithwyr hanfodol
Gwneir hyn ar ffurf galwad ffôn i ofyn cwestiynau i chi am un o’r categorïau ac yna datblygu’r cynnwys ymhellach. Os ydych chi’n fodlon cymryd rhan, cysylltwch â Jo Spooner ar 03000 858294 neu jo.spooner@wales.nhs.uk.
YMGEISIWCH RŴAN