Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Newyddion i Fusnesau yn Wrecsam (13.08.20)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Newyddion i Fusnesau yn Wrecsam (13.08.20)
Busnes ac addysgY cyngor

Newyddion i Fusnesau yn Wrecsam (13.08.20)

Diweddarwyd diwethaf: Awst 13, 2020 5:27 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
free workshop, Wrexham businesses, Wrexham business owners, export your website workshop
RHANNU

Dyma’r newyddion diweddaraf ar gyfer busnesau yn Wrecsam.

Cynnwys
  • Mwy o fanylion am y Bonws Cadw Swyddi wedi’u cyhoeddi
  • Gweithwyr sydd ar absenoldeb gyda thâl i gael taliadau dileu swydd llawn o ganlyniad i ddeddf newydd
  • Grantiau ar gael i fusnesau yn llenwi datganiadau tollau
  • Rhagor o fusnesau yn gallu elwa o Gynllun Benthyciadau Llywodraeth y DU
  • Galw am astudiaethau achos gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chymru Iach ar Waith

Mwy o fanylion am y Bonws Cadw Swyddi wedi’u cyhoeddi

Fel y soniwyd yn fras mewn diweddariad blaenorol: bydd busnesau yn cael taliad untro o £1,000 am bob gweithiwr a roddwyd ar gyfnod o absenoldeb gyda thâl, sydd yn dal yn gyflogedig ar ddiwedd mis Ionawr 2021. Mae rhagor o fanylion nawr wedi’u cyhoeddi sy’n darparu:

  • Trosolwg o’r cynllun
  • Manylion ynglŷn â pha gyflogwyr all hawlio’r Bonws Cadw Swyddi
  • Manylion ynglŷn â pha weithwyr y gall cyflogwr cymwys hawlio’r Bonws Cadw Swyddi ar eu cyfer.
  • Manylion ynglŷn â sut y gall cyflogwyr hawlio’r Bonws Cadw Swyddi

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

Am fwy o wybodaeth dilynwch y ddolen isod, bydd cyhoeddiad arall yn darparu canllawiau llawn ym mis Medi 2020:

https://www.gov.uk/government/publications/job-retention-bonus/job-retention-bonus

Gweithwyr sydd ar absenoldeb gyda thâl i gael taliadau dileu swydd llawn o ganlyniad i ddeddf newydd

Fel arfer mae gan weithwyr gyda mwy na 2 flynedd o wasanaeth parhaus sydd yn cael eu gwneud yn ddi-waith, hawl i dâl dileu swydd statudol sy’n seiliedig ar hyd gwasanaeth, oed a chyflog, hyd at uchafswm statudol.

Mewn ymdrech i ddiogelu gweithwyr sydd ar absenoldeb gyda thâl, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno deddfwriaeth, a ddaeth i rym ddydd Gwener, 31 Gorffennaf 2020, a fydd:

• Yn sicrhau bod gweithwyr sydd ar absenoldeb gyda thâl yn cael tâl dileu swydd statudol yn seiliedig ar eu cyflogau arferol, yn hytrach na’r gyfradd absenoldeb gyda thâl is
• Yn golygu na fydd y rhai sydd ar absenoldeb gyda thâl o dan y Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws dan anfantais os ydynt yn colli’u swyddi
• Yn berthnasol i dâl hysbysiad statudol a hawliau eraill, gan roi rhywfaint o sicrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon.

Grantiau ar gael i fusnesau yn llenwi datganiadau tollau

Os yw eich busnes chi’n llenwi datganiadau tollau, gallwch wneud cais am grantiau i gael arian ar gyfer recriwtio, hyfforddi a gwelliannau TG. I gael rhagor o wybodaeth am bwy all ymgeisio, gwerth y grantiau a sut y gellir eu defnyddio, dilynwch y ddolen hon:

Rhagor o fusnesau yn gallu elwa o Gynllun Benthyciadau Llywodraeth y DU

Mae newidiadau diweddar i reolau cymorth gwladwriaethol yn golygu y gall mwy o fusnesau bach (y rhai hynny sydd â llai na 50 o weithwyr a throsiant o lai na £9 miliwn) elwa o fenthyciadau o hyd at £5 miliwn o dan y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws. Yn y gorffennol, nid yw busnesau sy’n cael eu hystyried yn ‘gwmnïau mewn trafferthion’ wedi llwyddo i gael mynediad at fenthyciad drwy’r Cynllun oherwydd rheolau’r UE.

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon.

Galw am astudiaethau achos gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chymru Iach ar Waith

Mae Tîm Cymru Iach ar Waith ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awyddus i ddysgu o’r pandemig presennol ac yn dymuno clywed gan sefydliadau am eu profiadau â Covid-19.
Ar hyn o bryd, hoffai Iechyd Cyhoeddus Cymru wybod a fyddech chi’n fodlon cymryd rhan mewn ymarfer byr.

Hoffent ofyn i sefydliadau ddatblygu astudiaeth achos sy’n rhannu gwybodaeth ac enghreifftiau o sut y mae’r cyfnod clo wedi effeithio ar eich gweithrediadau dydd i ddydd. Wrth i bethau ddechrau dychwelyd i’r hen drefn (neu’r drefn newydd), maent yn awyddus i wybod sut mae eich sefydliad chi wedi addasu mewn perthynas ag un o’r pynciau a restrir isod, er mwyn rhannu enghreifftiau o arferion da / arloesi â chyflogwyr eraill. Bydd astudiaethau achos yn cael eu cyhoeddi ar wefan Cymru Iach ar Waith

• Cyfathrebu ac ymgysylltu â staff
• Gweithio o bell / datrysiadau TG
• Datrysiadau carfan / cadw pellter cymdeithasol
• Gweithio’n hyblyg/ cefnogi staff sy’n ofalwyr/ diamddiffyn
• Iechyd a lles meddyliol / mynd i’r afael ag unigedd
• Hyrwyddo lles cynaliadwy
• Hyrwyddo teithio llesol a chynaliadwy
• Rhoi’n ôl / cefnogi gweithwyr hanfodol

Gwneir hyn ar ffurf galwad ffôn i ofyn cwestiynau i chi am un o’r categorïau ac yna datblygu’r cynnwys ymhellach. Os ydych chi’n fodlon cymryd rhan, cysylltwch â Jo Spooner ar 03000 858294 neu jo.spooner@wales.nhs.uk.

Sut i gael prawf

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dyma adeg honno’r flwyddyn eto…sicrhewch eich bod wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad nesaf Dyma adeg honno’r flwyddyn eto…sicrhewch eich bod wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad nesaf
Erthygl nesaf Diolch bawb! Roedd y Rhith Ddiwrnod Chwarae yn llwyddiant mawr a gyrhaeddodd at 4 miliwn o bobl ???? Diolch bawb! Roedd y Rhith Ddiwrnod Chwarae yn llwyddiant mawr a gyrhaeddodd at 4 miliwn o bobl ????

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English