Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Os byddwch chi’n paratoi bwyd ar gyfer digwyddiad i’r Jiwbilî, darllenwch ymlaen er mwyn cadw’n ddiogel
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Os byddwch chi’n paratoi bwyd ar gyfer digwyddiad i’r Jiwbilî, darllenwch ymlaen er mwyn cadw’n ddiogel
Y cyngor

Os byddwch chi’n paratoi bwyd ar gyfer digwyddiad i’r Jiwbilî, darllenwch ymlaen er mwyn cadw’n ddiogel

Diweddarwyd diwethaf: Mai 24, 2022 10:20 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Jwbili
RHANNU

Wrth i ni i gyd edrych ymlaen at benwythnos Gŵyl y Banc y Jiwbilî, rydym yn ymuno â’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) i sicrhau bod unrhyw fwyd rydych chi’n ei baratoi i’w weini mewn digwyddiad dathlu yn ddiogel i’ch gwesteion ei fwyta.

Er mwyn sicrhau dathliad diogel, cofiwch fod tywydd cynnes a choginio yn yr awyr agored yn amodau perffaith i facteria dyfu, ac mae risgiau’n parhau wrth baratoi a gweini bwyd wedi’i oeri dan yr amodau hyn.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Os byddwch chi’n cynllunio digwyddiad yn eich cymuned, dyma rai awgrymiadau syml ar gyfer paratoi bwyd i nifer fawr o bobl:

  • golchwch eich dwylo’n rheolaidd gyda sebon a dŵr cyn paratoi a bwyta bwyd
  • golchwch ffrwythau a llysiau ffres bob amser
  • cadwch fwydydd amrwd a bwydydd sy’n barod i’w bwyta ar wahân
  • peidiwch â defnyddio bwyd sydd wedi pasio ei ddyddiad defnyddio erbyn
  • darllenwch unrhyw gyfarwyddiadau coginio a sicrhewch fod bwyd wedi’i goginio’n iawn cyn ei weini – mae angen iddo fod yn chwilboeth
  • sicrhewch fod ardaloedd paratoi bwyd yn cael eu glanhau a’u diheintio cyn ac ar ôl eu defnyddio, a sicrhewch fod offer yn cael ei olchi mewn dŵr sebon poeth
  • cynlluniwch o flaen llaw i gadw eich bwyd yn oer nes eich bod yn barod i fwyta. Bydd angen i unrhyw fwydydd y byddech chi’n eu cadw yn yr oergell gartref fel arfer gael eu cadw’n oer yn eich picnic. Mae hyn yn cynnwys: unrhyw fwyd â dyddiad defnyddio erbyn, seigiau wedi’u coginio, saladau a chynhyrchion llaeth. Rhowch y bwydydd hyn mewn bocs oeri neu fag oeri gyda rhew neu becynnau gel wedi rhewi. Rhowch nhw mewn gwahanol rannau o’r bocs neu’r bag, nid i gyd yn y gwaelod. Gallwch hefyd ddefnyddio diodydd wedi rhewi i helpu i gadw eich bocs oeri yn oer. Cadwch fwyd oer ar dymheredd is na phum gradd er mwyn atal bacteria rhag tyfu.

Nid oes angen tystysgrif hyfforddiant hylendid bwyd i baratoi a gwerthu bwyd ar gyfer digwyddiadau elusennol, fodd bynnag, mae angen i chi sicrhau eich bod yn trin bwyd yn ddiogel.  Bydd dilyn canllawiau’r Asiantaeth Safonau Bwyd am bedwar hanfod hylendid bwyd: glanhau, oeri, coginio, osgoi croeshalogi yn eich helpu i baratoi gwledd ddiogel i’ch cymuned.

Os ydych chi’n trefnu digwyddiad untro ar gyfer ffrindiau a chymdogion, nid oes angen i chi gofrestru, fodd bynnag os bydd unrhyw fusnesau bwyd yn bresennol, mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cofrestru â’r cyngor lleol.

Dywedodd Rebecca Pomeroy, Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro – Gwarchod y Cyhoedd, “Mae mor hawdd anghofio hanfodion hylendid bwyd pan fyddwch chi’n paratoi bwyd ar gyfer niferoedd mawr o bobl, ond cadwch nhw mewn cof. Cynlluniwch bethau’n ofalus i sicrhau bod eich digwyddiad yn cael ei gofio am y rhesymau cywir.”

Dywedodd Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, “Mae penwythnos hir Gŵyl y Banc yn rhoi cyfle i gymunedau ar draws Cymru fwynhau dod at ei gilydd gyda ffrindiau a theulu. Mae dathlu’n ddiogel yn golygu meddwl am ddiogelwch bwyd o flaen llaw, fel bod modd i chi ganolbwyntio ar fwynhau’r parti ar y diwrnod.
Mae rhagor o wybodaeth am gynnal parti stryd ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Jubilee Newyddion Llyfrgelloedd: Hwyl Jiwbilî!
Erthygl nesaf Carbon Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cynnal ei ddigwyddiad dathlu cyntaf ar ôl gweithdy lleihau carbon

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English