Oeddech chi’n gwybod bod pob un o’n hadeiladau llyfrgell ar agor ar gyfer gwasanaeth Archebu a Chasglu eto?
Gallwch anfon e-bost atom gyda manylion llyfrau yr hoffech i ni eu casglu ar eich rhan neu gallwch ffonio’ch llyfrgell leol neu lenwi ffurflen archebu ar-lein. Dim ond o’ch llyfrgell leol y byddwch chi’n gallu dychwelyd, archebu a chasglu stoc.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Byddwn yn gwneud ein gorau i gael y llyfrau rydych chi angen i chi cyn gynted ag y gallwn. Diogelwch ein staff a’n cwsmeriaid yw ein blaenoriaeth ac rydym yn dilyn arweiniad Llywodraeth Cymru ar sut i drin llyfrau llyfrgell.
Sylwch y bydd yr holl lyfrau a ddychwelir i’r llyfrgell yn cael eu rhoi mewn cwarantîn am 72 awr.
Pan fydd eich llyfrau’n barod, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad i chi ddod i’w casglu. Gallwch ddychwelyd llyfrau yn yr un apwyntiad os ydych chi’n casglu llyfrau.
Os mai dim ond dychwelyd llyfrau yr ydych am eu dychwelyd, bydd angen i chi gysylltu â ni trwy e-bost a ffôn i drefnu apwyntiad. Bydd yr holl lyfrau sydd gennych ar fenthyg ar hyn o bryd ac unrhyw lyfrau rydych chi’n eu benthyg trwy’r Gwasanaeth Archebu a Chasglu yn cael eu hadnewyddu’n awtomatig felly nid oes angen i chi boeni am eu dychwelyd mewn pryd ac ni fydd unrhyw ddirwyon arnoch chi.
Am fanylion cyswllt ac i gael mynediad i’r ffurflen archebu a chasglu ewch i www.wrexham.gov.uk/llyfrgelloedd Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi eto!
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG