Ynghyd ag FCC Environment, ein partner rheoli gwastraff yn Wrecsam, hoffem atgoffa pobl na fyddwn yn goddef unrhyw fath o gamdriniaeth o staff yn ein canolfannau ailgylchu.
Ni fyddwn yn goddef unrhyw gamdriniaeth gorfforol na geiriol o’n staff. Bydd unrhyw un sy’n ymosod ar staff yn cael eu gwahardd o’n canolfannau ailgylchu ac mae’n bosibl yr hysbysir yr heddlu.
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Parch
Parchwch ein staff bob amser yn y canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref. Nid yw cam-drin geiriol a chorfforol o’n staff yn dderbyniol, ac nid yw’n rhywbeth y dylen nhw ei brofi wrth iddynt wneud eu gwaith.
Ar y cyfan, mae trigolion lleol yn gyfeillgar iawn yn ystod eu hymweliadau ac yn deall fod angen sortio eitemau yn y lleoedd cywir er mwyn i ni allu ailgylchu a phrosesu eitemau’n effeithiol. Fodd bynnag, mae’n biti nad yw rhai trigolion wedi rhannu’r farn hon o bryd i’w gilydd ac yn teimlo ei bod yn dderbyniol i gam-drin ein staff – dydi hi ddim.
Ein tair canolfan ailgylchu
I’ch atgoffa, mae gennym ganolfannau ailgylchu yn…
Lôn y Bryn, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam
Banc Wynnstay, Plas Madoc
Y Lodge, Brymbo
Ewch ar wefan y cyngor i weld rhestr fanwl o’r deunyddiau y gallwch chi eu hailgylchu yn ein canolfannau.
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU