Erthygl gwadd: Y CHTh a Heddlu Gogledd Cymru
Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, hefo’r Nadolig ar y gweill a hefo cymaint i’w wneud ac ychydig o amser ar ôl cyn y diwrnod mawr, gall fod yn hawdd cael ein twyllo gan sgamiau ar-lein. Mae hyn yn wir iawn wrth siopa ar-lein am anrhegion, hanfodion yr ŵyl a’r bargeinion Nadoligaidd hynny ‘da ni gyd yn chwilio amdanyn nhw. Ond mae’n bwysig bod yn wyliadwrus o ran peryglon twyll ar-lein. Hefo hyn mewn golwg, mae Andy Dunbobbin sef Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ac Uned Troseddau Economaidd Heddlu Gogledd Cymru yn galw ar y cyhoedd warchod eu hunain rhag twyll ar y rhyngrwyd drwy ddilyn cynghorion bach syml. Maen nhw’n gofyn i bobl:
Pwyllo – Pwyllwch a meddyliwch cyn clicio ar ddolenni neu agor atodiadau.
Herio – Os ‘da chi’n derbyn unrhyw gyswllt sy’n anarferol neu annisgwyl, cysylltwch â’r unigolyn neu sefydliad er mwyn sicrhau ei fod yn ddilys.
Gwirio – Gwiriwch eich sgôr credyd a datganiadau banc yn rheolaidd er mwyn gweld unrhyw anghysondebau.
Mae troseddwyr yn gyson yn targedu dioddefwyr sy’n siopa ar-lein, fel prynwyr ac fel gwerthwyr, yn enwedig adeg y Nadolig. Mae ystod eang o dactegau mae troseddwyr yn eu defnyddio er mwyn targedu eu dioddefwyr. Gall y math hwn o dwyll gynnwys gwefannau ffug neu unfath sydd wedi’u dylunio er mwyn dynwared cwmni cyfreithlon. Efallai bydd twyllwyr yn sefydlu cwmnïau yn cynnig nwyddau gwael neu ffug am werth ar-lein am brisiau uchel a all gynnwys adolygiadau ffug neu honiadau afrealistig.
Mae gwefannau arwerthu yn cael eu camddefnyddio’n rheolaidd gan dwyllwyr mewn nifer o ffyrdd. Felly’r cyngor bob amser ydy i bobl edrych ar bolisïau talu’r gwefannau arwerthu cyn prynu. Dylai cwsmeriaid fod yn wyliadwrus o unrhyw werthwr sy’n gofyn am flaendal neu hyd yn oed daliad mawr yn uniongyrchol i’w cyfrif banc, yn hytrach na defnyddio PayPal neu wasanaethau tebyg eraill.
Sgamiau Negeseuon Testun, WhatsApp ac E-bost
Gall troseddwyr gysylltu â’u dioddefwyr drwy anfon negeseuon e-bost neu destun sy’n edrych yn swyddogol sy’n ymddangos eu bod wedi dod gan gwmnïau a sefydliadau cyfreithlon. Mae’r rhain wedi’u llunio er mwyn denu pobl drwy hyrwyddo bargeinion neu gynigion arbennig, yn gofyn iddynt ddiweddaru manylion eu cyfrif neu gynghori bod problem gyda biliau neu fancio maent angen ymdrin â hi.
Gall clicio ar ddolenni mewn negeseuon e-bost twyllodrus hefyd arwain at feirws neu faleiswedd cyfrifiadurol yn cael ei lawrlwytho ar declyn rhywun. Felly mae’n bwysig bod yn wyliadwrus, yn enwedig os ydy’r neges e-bost neu destun yn annisgwyl.
Hacio ydy’r term a ddefnyddir pan mae troseddwr yn cael mynediad at system neu rwydwaith gyfrifiadurol, fel arfer er mwyn cael mynediad anawdurdodedig at ddata personol. Yn aml, mae hacio’n digwydd cyn y twyll.
Gwnaiff troseddwyr ddefnyddio technegau amrywiol er mwyn cael mynediad at y data maent ei eisiau. Gall twyllwyr gynllwynio’n gymdeithasol i ddylanwadau ar bobl i roi eu cyfrineiriau’n wirfoddol. Efallai byddant yn derbyn e-bost neu neges destun dwyllodrus neu’n mynd ar wefan ffug gyda dolen, lle gofynnir iddynt roi gwybodaeth bersonol neu roi cyfrinair. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chasglu gan y troseddwyr a wnaiff ei defnyddio er mwyn twyllo neu ddwyn hunaniaeth.
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Dwi’n falch o weithio hefo Uned Troseddau Economaidd Gogledd Cymru er mwyn rhannu’r neges o ran sut gall pobl Gogledd Cymru gadw’n saff wrth siopa ar-lein y ‘Dolig hwn.
“Yn anffodus, os ydy cynnig yn edrych yn rhy dda i fod yn wir, yn aml y mae. Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, yn enwedig o dan bwysau ariannol, mae’n hawdd cael eich temtio gan fargen wych ar-lein. Ond mae’n hanfodol wrth siopa ar-lein y Nadolig hwn eich bod yn Pwyllo, Herio a Gwirio. Os ‘da ni gyd yn dilyn cynghorion bach syml, ‘da ni’n gallu arbed llawer o drafferth i ni’n hunain ymhellach ymlaen. Mae’n bwysig cofio dros y ‘Dolig nad aur ydy popeth melyn!”
Dywedodd PC Dewi Owen o Dîm Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru, sy’n ffurfio rhan o Uned Troseddau Economaidd Heddlu Gogledd Cymru: “’Da ni eisiau pawb fwynhau hwyl yr ŵyl ac mae camau syml fel pwyllo a meddwl cyn prynu rhywbeth neu glicio ar ddolen yn gallu’ch stopio chi rhag dioddef twyll. Yn hytrach, defnyddiwch gerdyn credyd neu wasanaethau talu fel PayPal. Mae’r rhain yn gallu eich gwarchod chi ymhellach wrth siopa ar-lein. Fel mae’r Comisiynydd wedi dweud, os ydy cynnig yn edrych yn rhy dda i fod yn wir, yn aml y mae.”
Yr hyn i’w wneud
Os ydy’r gwaethaf yn digwydd, a ‘da chi’n dioddef twyll, dyma’r camau i’w cymryd a gyda phwy ddylech chi gysylltu.
Gwarchodwch eich cyfrifon
Os ‘da chi wedi rhannu eich manylion banc, cysylltwch â’ch banc ar unwaith, hyd yn oed os nad oes arian ar goll. Gallent yna fynd ati i warchod eich cyfrif chi ac amnewid eich cardiau banc chi er mwyn atal trafodion twyllodrus.
Os ‘da chi wedi colli arian, efallai bydd gennych chi hawl i ad-daliad gan eich banc o dan y Model Ad-dalu wrth Gefn. Am fanylion ewch ar www.financial-ombudsman.org.uk er mwyn gweld os gallwch chi wneud hawliad.
Riportio trosedd
Os ydy’r drosedd ar waith ac mae rhai o dan amheuaeth yn bresennol, rhowch wybod i Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu ffoniwch 999 mewn argyfwng.
Fel arall, dylech chi riportio’r mater wrth Action Fraud ar 0300 123 2040 neu ar www.actionfraud.police.uk. Action Fraud ydy’r ganolfan riportio genedlaethol am dwyll ledled Cymru a Lloegr.
Gwiriwch eich credyd
Os ydy eich gwybodaeth bersonol chi wedi’i dadlennu, argymhellir eich bod chi’n gwirio eich sgôr credyd. Bydd hwn yn dangos os ydy eich manylion wedi’u defnyddio er mwyn agor cyfrifon credyd yn eich enw. Mae’n arfer da gwirio hyn o dro i dro hyd yn oed os nad ydych wedi dioddef twyll.
Os ydych dal i bryderu am ladrad hunaniaeth, gallwch chi ymuno â Chofrestr Warchodol CIFAS. Am ffi fechan, byddwch chi’n cael gwybod os ydy cyfrif credyd yn cael ei agor yn eich enw chi gan y gwneir gwiriadau diogelwch ychwanegol yn uniongyrchol gyda chi. Ewch i gael mwy o wybodaeth ar www.cifas.org.uk/pr.
Hysbyswch am alwadau, negeseuon testun ac e-bost twyllodrus
Gallwch hysbysu am alwadau ffôn, negeseuon testun a negeseuon e-bost twyllodrus yn uniongyrchol, hyd yn oed os nad ydych wedi colli unrhyw arian. Mae’r Ganolfan Diogelwch Seiber Genedlaethol ac Ofcom yn defnyddio’r wybodaeth hon er mwyn gwarchod pobl eraill.
Er mwyn hysbysu am sgiâm, tecstiwch y gair ‘Call’ gyda rhif yr un o dan amheuaeth at 7726, sy’n sillafu’r gair SPAM ar eich ffôn.
Er mwyn riportio neges destun dwyllodrus, anfonwch y neges ymlaen at 7726. Ceir mwy o wybodaeth ar www.ofcom.org.uk.
Gallwch hysbysu am e-bost amheus drwy anfon yr e-bost ymlaen at report@phishing.gov.uk. Ceir mwy o wybodaeth ar www.ncsc.gov.uk.
Cewch hefyd gyngor pellach ar gadw’n saff ar-lein y Nadolig hwn gan Get Safe Online, sef un o’r prif ffynonellau gwybodaeth di-duedd, ffeithiol a hawdd i’w ddeall sy’n sicrhau diogelwch ar-lein: www.getsafeonline.org/christmas