Efallai eich bod yn cofio yn gynharach eleni, fe aethom ati i hysbysebu’r cynnig nofio am ddim gan Freedom Leisure ar gyfer rhai o dan 16 i blant, rhieni a gwarcheidwaid – ac fe gawsom wared ar y tâl o £5 ar gyfer cerdyn nofio iau.
Dosbarthwyd llyfrynnau gyda’r cerdyn i ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol – gyda phlant yn cael eu hannog i fynd â’r cerdyn gartref ac atgoffa eu rhieni i ddefnyddio’r cynllun nofio am ddim.
Mae ychydig fisoedd wedi mynd heibio erbyn hyn, ac mae’n bleser gennym ddweud fod y nifer sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun i’r rhai dan 16 oed wedi bron â dyblu o’i gymharu â’r un niferoedd y llynedd – dosbarthwyd 184 o gardiau rhwng mis Ionawr a Mawrth y llynedd, a dosbarthwyd 364 eleni.
Ynghyd â newidiadau a gwelliannau i’n canolfannau hamdden a gweithgareddau, byddwn yn parhau i weithio i sicrhau fod cynifer o bobl â phosibl yn defnyddio ein pyllau nofio.
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Dwi wrth fy modd ein bod wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y rhai sydd yn nofio am ddim ymysg y rhai dan 16 yn Wrecsam yn sgil y cyhoeddusrwydd ychwanegol a chael gwared ar y tâl o £5 am gerdyn.
“Trwy gael gwared ar y taliadau cerdyn i’r rhai dros 60, dwi’n gobeithio y gwelwn ni ganlyniadau tebyg ac annog mwy o bobl i fod yn heini a mentro mewn i’r pwll.
“Ers i mi fod yn Aelod Arweiniol ar gyfer y maes yma, dwi wedi bod yn awyddus i weld y tâl am gardiau yn cael ei ddileu o safbwynt hamdden a gwrthdlodi, a dwi mor ddiolchgar i Freedom Leisure am wneud hyn, ynghyd â’n tîm o swyddogion cyngor sydd yn gweithio’n galed.
“Mae Freedom Leisure yn sefydliad gwych i weithio gyda nhw, a gobeithio y gwelwn ni rhagor o gynnydd yn nifer y nofwyr ar draws y Fwrdeistref Sirol.
“Dwi’n gwybod y bydd y tîm yn hapus i siarad gydag unrhyw un ynghylch y newidiadau i’r taliadau am y cerdyn, a dwi’n falch iawn bod y newidiadau hyn wedi cael eu gweithredu.
“Dwi’n edrych ymlaen at weithio’n rheolaidd gyda Freedom Leisure a swyddogion y Cyngor er mwyn cyflwyno rhagor o newidiadau a gwelliannau.”
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN