Beth yw’r sefyllfa yn Wrecsam yr wythnos hon?
Rydym yn rhannu newyddion cadarnhaol gyda chi’r wythnos hon gan fod ein nifer o achosion Covid-19 yn parhau i ostwng. Ond nid ydym allan ohoni eto.
Y prif achos dros ledaeniad y clefyd yw trosglwyddiad rhwng aelwydydd, sy’n esbonio pam mae’r cyfyngiad i beidio â chymysgu ag unrhyw aelwydydd eraill yn dal i fod mewn grym. Mae’n bwysig ac mae angen i bob un ohonom wneud hyn am beth amser eto.
Y newyddion diweddaraf am ysgolion
Dechreuodd disgyblion y Cyfnod Sylfaen ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth heddiw (26.02.21) ac os bydd nifer yr achosion Covid yn parhau i ostwng, dylai disgyblion eraill ddychwelyd ar Fawrth 15 a byddwn yn gadael i chi wybod beth yw’r cynlluniau.
Cofiwch:
- Os ydych yn rhiant neu’n ofalwr i ddisgybl yn y Cyfnod Sylfaen, rhaid i chi wisgo mwgwd pan fyddwch yn danfon a chasglu eich plant.
- Ni ddylech aros i sgwrsio nac aros o gwmpas tir yr ysgol na’r giatiau a dylech bob amser gadw 2m o bellter rhyngoch chi ac unrhyw un sydd ddim yn eich swigen aelwyd.
- Mae swigod ysgol ar gyfer ysgolion yn unig, ni ddylai plant fod yn cymysgu’r tu allan i’r ysgol.
- Ni ddylech anfon eich plentyn i’r ysgol os nad yw’n teimlo’n dda.
- Dylech barhau i weithio gartref pan fydd y plant yn dychwelyd i’r ysgol.
Y newyddion diweddaraf am y rhaglen frechu
Mae’r rhaglen frechu’n dal i gael ei rhoi ar waith yn Wrecsam ac mae’r cynnydd yn wych. Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd ddydd Mercher mai’r nod yw brechu pob oedolyn cymwys erbyn 31 Gorffennaf.
Ar hyn o bryd mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn gwahodd pawb sy’n 65 oed a throsodd (grŵp blaenoriaeth 5), yna oedolion rhwng 16 a 65 oed o’r grwpiau sydd mewn perygl (grŵp blaenoriaeth 6). Gwahoddir pobl i ganolfannau brechu a meddygfeydd meddygon teulu i gael eu brechiad, yn ôl trefn y grwpiau blaenoriaeth a bennir gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.
Mae hi wedi bod yn hyfryd yn gweld chi a’ch teuluoedd yn derbyn eich brechiadau.
Diolch i’n timoedd, rydym yn symud yn gyflym i frechu’r grwpiau blaenoriaeth.
Gallwn gadarnhau – yn dibynnu ar y cyflenwad – y byddwn wedi cynnig brechlyn i bob oedolyn erbyn 31 Gorffennaf ????
— Llywodraeth Cymru (@LlywodraethCym) February 24, 2021
Apwyntiadau brechu – gair i gall
Mae nifer o bobl yn gweithio’n galed i roi’r rhaglen ar waith yn Wrecsam. Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud i’w helpu.
- Peidiwch â ffonio’r GIG neu eich meddyg teulu i ofyn am apwyntiad brechu (oni bai bod rhywun wedi gofyn i chi wneud hynny). Pan ddaw eich tro, byddan nhw’n cysylltu â chi.
- Nid yw llawer ohonom yn ateb ein ffôn i rifau dieithr. Er hyn, os ydych yn un o’r grwpiau sy’n cael eu brechu ar hyn o bryd, efallai bydd y GIG yn eich ffonio os daw apwyntiad ar gael ar fyr rybudd.
- Os byddwch yn derbyn gwahoddiad am apwyntiad, ond nad ydych eisiau cael eich brechu, rhowch wybod i’r GIG fel y gellir cynnig yr apwyntiad i rywun arall.
- Pan fyddwch yn mynd i’ch apwyntiad, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw pellter cymdeithasol, peidiwch â chyrraedd yn gynnar a dewch â mwgwd gyda chi. Dylech hefyd ddod â dull adnabod gyda’ch llun arno.
Peidiwch â chael eich twyllo gan sgam brechu Covid-19
Efallai bydd rhai pobl yn ceisio eich twyllo gyda negeseuon e-bost neu alwadau ffug am frechiadau.
Cofiwch…ni fydd unrhyw un yn gofyn i chi ‘gofrestru’ neu dalu i gael eich brechu, ac ni ofynnir i chi roi eich manylion banc na’ch cyfrineiriau.
Pan ddaw eich tro, bydd y GIG neu eich meddyg teulu yn cysylltu â chi.
Byddwch yn wyliadwrus
Dylech ymddwyn fel pe baech chi – a phawb rydych yn cyfarfod â nhw – o bosibl wedi eich heintio â Covid-19.
Cadwch at y cyfyngiadau presennol yng Nghymru a:
- Peidiwch â chymysgu gyda phobl o aelwydydd eraill – a gall hyd at bedwar person o ddwy aelwyd wahanol wneud ymarfer corff gyda’i gilydd y tu allan.
- Dylech deithio at ddibenion hanfodol yn unig…megis gwaith, rhesymau iechyd neu ddyletswyddau gofal.
- Wrth i’r tywydd wella mae’n bwysig ein bod i gyd yn gwneud ymarfer corff ond cofiwch gerdded a pheidio â gyrru i wneud ymarfer. Mae ein meysydd parcio mewn parciau gwledig yn dal i fod ar gau i ymwelwyr.
Os oes gennych symptomau…
Os bydd gennych symptomau coronafeirws, gwnewch yn siŵr eich bod yn hunan-ynysu ac yn cael prawf.
Gallai fod y peth pwysicaf i chi ei wneud erioed.
Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru.
Ffynonellau gwybodaeth defnyddio
- Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â brechu (Gogledd Cymru)
- Gwefan Llywodraeth Cymru – Cwestiynau Cyffredin am gyfyngiadau Lefel Rhybudd 4
- Gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru – datganiad dyddiol
CANFOD Y FFEITHIAU